Mae Ecosystem Iechyd Digidol Cymru a’r Adnodd Data Cenedlaethol yn cynnal digwyddiad Data Mawr ar 29 Mawrth 2023 yn Stadiwm Principality, Caerdydd.   

Illustrative image

Mae data’n dod yn fwy cyffredin mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol fel sbardun allweddol ar gyfer penderfyniadau, polisïau ac fel ffordd o oresgyn heriau. Fodd bynnag, mae trafodaethau ynghylch beth yw’r ffordd orau o weithredu data mewn meysydd gweithredol penodol.   

Cynhelir y digwyddiad wyneb yn wyneb hwn i ysbrydoli’r rheini a fydd yn bresennol drwy rannu’r ffyrdd y gall data helpu unigolion, timau a sefydliadau i gyflawni gwelliannau gweithredol ac i oresgyn heriau. Bydd hefyd yn ceisio helpu’r rheini sy’n gyfrifol am y Data Mawr i’w ddefnyddio’n fwy effeithiol.  

Bydd y diwrnod yn cynnwys sgyrsiau gan uwch arweinwyr yn rhannu eu safbwyntiau a’u profiadau o ddefnyddio Data Mawr, gyda chyfle i rwydweithio â gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda data, ynghyd ag arddangosiadau craff o’r posibiliadau ar gyfer eich sector chi.   

Yn ôl Delyth James, Arweinydd y Rhaglen, Ecosystem Iechyd Digidol Cymru:   

“Data yw’r allwedd i ddatgloi potensial llawn iechyd a gofal cymdeithasol. Dewch i ni ddod at ein gilydd i archwilio a harneisio pŵer Data Mawr yn y GIG ac yng ngofal cymdeithasol yng Nghymru.”   

Bydd cyfle hefyd i drafod yr heriau rydych chi’n eu hwynebu, a sut gellid defnyddio data mawr i’ch helpu chi i oresgyn yr heriau hynny. P’un ai a ydych chi’n weithredwr, yn gyfarwyddwr neu’n arweinydd mewn swyddogaethau gweithredol ym maes iechyd yng Nghymru, byddwch chi’n gallu archwilio posibiliadau diddiwedd pob agwedd o ddata, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial a gwyddor data.    

Yn ôl Chris Haberley, Uwch Reolwr Prosiect, Uwch Ddadansoddeg:   

“Mae’r digwyddiad Data Mawr hwn yn gyfle i gysylltu uwch arweinwyr ac ymarferwyr dadansoddi, ac i ysbrydoli cyfranogwyr i ystyried sut gallai Data Mawr helpu i ddatrys problemau ymarferol. Rydyn ni’n falch iawn o groesawu panel rhagorol o siaradwyr i rannu eu safbwyntiau, ac i glywed safbwyntiau’r rheini a fydd yn bresennol!”   

Bydd Dadansoddwyr Data a Gwyddonwyr Data hefyd yn cael eu gwahodd i ymuno â sesiwn o safon fyd-eang Cloud Hero, a fydd yn gweithio mewn partneriaeth â Google.   

Awydd dod? Cofrestrwch heddiw i sicrhau eich lle yn rhad ac am ddim!