Mae prosiect treftadaeth a chadwraeth yn y Rhondda sy’n defnyddio garddio a natur i wella sgiliau cyflogadwyedd a llesiant pobl wedi’i enwi fel Prosiect y Flwyddyn Loteri Genedlaethol Cymru 2021.

South Wales community garden and wellbeing wonder wins major awards

Mae prosiect Cadwraeth a Threftadaeth The Green Valley yn Abercynon, Rhondda Cynon Taf, wedi curo dros 1500 o fudiadau i gyrraedd y cam pleidleisio cyhoeddus yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni, sy’n dathlu’r bobl a’r prosiectau ysbrydoledig sy’n gwneud pethau anhygoel gyda chymorth arian y Loteri Genedlaethol.  

Cyhoeddwyd mai’r prosiect hwn oedd enillydd Cymru yn dilyn y bleidlais gyhoeddus a gynhaliwyd yn gynharach eleni.

Mae prosiect Cadwraeth a Threftadaeth The Green Valley yn helpu pobl o gyn bentref glofaol Cymru, Abercynon, i wella eu sgiliau cyflogadwyedd a’u llesiant drwy arddio a chysylltu â natur.  

Tair blynedd yn ôl, dim ond tir gwastraff diffaith oedd safle Anturiaethau Organig Cwm Cynon, sydd bellach yn gartref i brosiect Cadwraeth a Threftadaeth The Green Valley. Heddiw, diolch i gefnogaeth £20,000 o gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac ymdrechion eithriadol llawer o wirfoddolwyr, mae wedi cael ei thrawsnewid yn ardd gymunedol gyda rhandiroedd sy’n tyfu bwyd ar gyfer eu banc bwyd, caffi, ysgol haf a hyd yn oed campfa werdd. Mae hefyd yn darparu gweithgareddau a rhaglenni awyr agored ar gyfer pobl ifanc sydd wedi ymddieithrio o addysg ac mae’n gweithio’n agos gyda phobl ifanc awtistig ac unrhyw un sydd â phroblemau iechyd meddwl. 

Mae’r prosiect wedi creu cysylltiadau eang gyda grwpiau cymunedol, rhwydweithiau cymorth i bobl awtistig, canolfannau gwaith ac ysgolion, ac mae’n derbyn atgyfeiriadau presgripsiwn cymdeithasol gan feddygfeydd meddygon teulu. Mae’r pwyslais ar harneisio manteision natur i wella llesiant a chyflogadwyedd. 

Un o’r bobl sy’n gallu tystio i natur drawsnewidiol gadarnhaol y prosiect yw Elan Gwyn, sy’n 15 oed, o Bontypridd. Gadawodd Elan amgylchedd ffurfiol yr ysgol yn 14 oed oherwydd problemau gorbryder. Dechreuodd fynychu’r prosiect unwaith yr wythnos ac mae bellach gyda nhw dri diwrnod yr wythnos ac yn ymgymryd â nifer o gymwysterau. Ers ymuno â’r prosiect, mae Elan wedi blodeuo’n unigolyn hyderus iawn ac mae ganddi uchelgais o fod yn entrepreneur llwyddiannus. 

Dywedodd Elan “Yn yr ysgol roeddwn i’n teimlo’n ofidus iawn, roeddwn i’n poeni’n ofnadwy a doedd amgylchedd ffurfiol yr ysgol ddim yn addas i mi,”

“Mae’r amgylchedd dysgu yn Anturiaethau Organig Cwm Cynon yn llawer mwy addas ar gyfer fy anghenion a’m math o ddysgu ac rwy’n teimlo fy mod yn ffitio i mewn. Dwi’n teimlo’n gyfforddus iawn yma a dydw i ddim yn teimlo dan bwysau nac fy mod yn cael fy meirniadu. Mae pawb yn ffitio i mewn ac rydw i’n llawer hapusach fel person ac mae fy iechyd meddwl yn llawer gwell. 



Mae’n ffordd unigryw a gwahanol o ddysgu sydd wedi rhoi llawer o obaith i mi ar gyfer y dyfodol. Rydw i’n gwneud amrywiaeth o gymwysterau gwahanol yma ac ar hyn o bryd rydw i’n dilyn cwrs entrepreneuraidd lefel un a dau. Rydw i hefyd yn helpu gyda phrosiectau amrywiol sy’n digwydd ar y safle, yn ogystal â helpu o amgylch yr ardd ei hun.



Rydw i’n sicr yn meddwl ei fod yn rhywle lle gall pobl dyfu. Rydw i’n adnabod llawer o bobl sydd wedi dod yma gydag amrywiaeth o broblemau a heb lawer o hyder, ond maen nhw wedi dod yma, ac maen nhw wedi tyfu’n bobl wahanol. Mae’n lle gwych i bobl ifanc a phobl o bob cefndir dyfu.”

Dywedodd Janis Werret, Cyfarwyddwr a Sylfaenydd Anturiaethau Organig Cwm Cynon, sy’n falch iawn bod y cyhoedd wedi pleidleisio dros y prosiect fel Prosiect y Flwyddyn:

“Rydyn ni wrth ein bodd bod ein prosiect wedi ennill Gwobr y Loteri Genedlaethol ac wedi cael y gydnabyddiaeth wych hon. Mae’n braf gwybod bod y cyhoedd wedi pleidleisio drosom ni. Mae’r wobr hon yn ffordd o ddiolch o galon i bawb am eu hymroddiad i wneud y prosiect yn bosibl:

Mae’n llawer mwy na gardd gymunedol – rwy’n gweld pobl fel Elan yn tyfu drwy’r amser ac yn gwylio’r newidiadau bach hynny ynddyn nhw nad ydyn nhw efallai’n eu gweld ynddyn nhw eu hunain.

Pan gawsom y safle yn 2018, dywedwyd wrthym ei bod yn gyfrifoldeb mawr oherwydd ei bod mewn cyflwr mor wael ac wedi’i hesgeuluso. Nid oedd gennym arian na syniad ynghylch o ble y byddai’n dod.

Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth cyllid y Loteri Genedlaethol a chymorth ein gwirfoddolwyr ymroddedig sydd wedi gweithio’n ddiflino i adfer a diogelu’r adnodd gwerthfawr hwn i’w cymuned.” 

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae dros £30 miliwn yn mynd i achosion da ledled y DU bob wythnos, sydd, yn ei dro, yn helpu prosiectau fel prosiect Cadwraeth a Threftadaeth The Green Valley i barhau i wneud gwaith anhygoel yn eu cymunedau. I gael rhagor o wybodaeth am Wobrau’r Loteri Genedlaethol, ewch i www.lotterygoodcauses.org.uk.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Gwobrau’r Loteri Genedlaethol: Oswyn Hughes ar 07976 324 179 neu e-bostio oswyn.hughes@lotterygoodcauses.org.uk.