Mae Cyflymu Arloesi Clinigol (CIA), partner yn y rhaglen Cyflymu, yn cefnogi prosiectau sy’n ymwneud â rhagnodi cymdeithasol. 

A photo of a wooden dragon

Cynon Valley Organic Adventures Ltd

Term ambarél yw rhagnodi cymdeithasol a ddefnyddir i ddisgrifio ymyriadau cymunedol anghlinigol ar gyfer amryfal gyflyrau iechyd, ochr yn ochr â chamau i wella ymddygiadau iechyd a llesiant. Mae rhagnodi cymdeithasol gwyrdd yn gwneud hyn drwy sicrhau mynediad i fannau gwyrdd a gweithgareddau ym myd natur.

Mae CIA yn helpu cyflawni hyn drwy gefnogi’r gwaith o greu, gwerthuso a hyrwyddo prosiect rhagnodi cymdeithasol gwyrdd ger Abercynon.

Yn y prosiect 12 mis hwn bydd CIA yn trefnu cywaith rhwng academyddion Prifysgol Caerdydd a Cynon Valley Organic Adventures, Interlink Rhondda Cynon Taf, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a Chlwstwr Gofal Sylfaenol De Cynon.

Yn harddwch Cwm Cynon mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar gryfhau cysylltiadau rhwng meddygfeydd lleol, cydgysylltwyr lles a Cynon Valley Organic Adventures, i greu cyfleon newydd i ymgysylltu â’r amgylchfyd lleol drwy lwybr natur newydd.

Bydd y prosiect yn archwilio effeithiolrwydd y llwybr natur fel arf i wella bodlonrwydd, ynghyd â hybu ymgysylltu â chyrff sy’n gallu dylanwadu ar bolisïau ac arferion rhagnodi cymdeithasol.

A photo of a man and a young adult digging

Meddai Janis Werrett, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Cynon Valley Organic Adventures:

“Mae Cynon Valley Organic Adventures wrth ein bodd o gydweithio gyda Phrifysgol Caerdydd ar y prosiect newydd hwn, a fydd nid yn unig yn rhoi cyfleon i bobl leol wella’u bodlonrwydd ond hefyd yn ein helpu yn ein helpu i ddatblygu llecyn cymunedol gwych fydd yn darparu dysg a man gwyrdd agored am flynyddoedd i ddod.”

Darllenwch y stori lawn heddiw.

EmotionMind Dynamic

Mae CIA yn cyflawni rhagnodi cymdeithasol hefyd trwy gefnogi Hayley Wheeler a Rhaglen EmotionMind Dynamic.

Partneriaeth rhwng sawl corff cydweithiol yw hwn sef Canolfan Gwerth Cymdeithasol Prifysgol Bangor yn CHEME, Tîm Ymchwil, Arloesi a Gwella Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru, a Speaker Insight. Cefnogir y prosiect hefyd gan Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru, rhwydwaith ymchwil aml-broffesiwn o ryw 300 o weithwyr proffesiynol sydd â diddordeb mewn datblygu Rhagnodi Cymdeithasol yng Nghymru.

Cyfrennir arbenigedd academaidd gan Mary Lynch o Brifysgol Bangor, sy’n arwain y Ganolfan Gwerth Cymdeithasol, a Rhiannon Tudor-Edwards, cyfarwyddwr CHEME. Yn arbenigwyr mewn ymchwil i Fudd Cymdeithasol o Fuddsoddi (SROI), bydd y ddwy’n gwerthuso rhaglen chwe cham Hayley at les meddyliol, gan gymharu’r profiad wyneb-yn-wyneb gwreiddiol gyda fersiwn newydd ar-lein a dull dysgu cyfunol. Mae’n amheuthun hefyd cael cefnogaeth ychwanegol yr Athro Kevin Morgan, Deon Ymgysylltu Prifysgol Caerdydd.

Meddai Hayley Wheeler, sylfaenydd Rhaglen EmotionMind Dynamic:

“Ar ôl cwblhau’r cais gyda Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar gyfer y rhaglen Cyflymu, profiad cynhyrfus a nerfus oedd cael fy ngalw gan dîm Cyflymu Caerdydd i gael y sgwrs gyntaf am fy rhaglen EmotionMind Dynamic a beth roeddwn i’n gobeithio’i gael gan Cyflymu. Mwy cyffrous fyth oedd cael gwybod eu bod nhw’n hoffi EmotionMind Dynamic ac yn awyddus i gydweithio gyda mi ar gwblhau papur ymchwil a chefnogi twf a datblygiad busnes. 

Rwy’n ei theimlo hi’n fraint cael gweithio gydag Andrew Cuthbert a chael ei gefnogaeth drwy’r broses, a derbyn arweiniad ac argymhellion gan aelodau’r tîm aml-ddisgyblaeth. Mae hyn wedi fy ngalluogi i osod targedau byrdymor a hirdymor a chymryd y camau iawn i’w cyflawni. Mae wedi agor drysau a rhoi cymorth imi wneud cysylltiadau yn y rhwydweithiau iawn. Rwy’n gweithio nawr gydag ymgynghorwyr datblygu busnes i ddiffinio model busnes Therapi Cysylltu EmotionMind i’w drwyddedu ac mae Prifysgol Bangor yn darparu’r ymchwil i effeithiolrwydd y rhaglen.

Alla’i ddim diolch digon i Andrew a’r tîm Cyflymu am eu mewnbwn, eu cefnogaeth, eu harweiniad a’u gwybodaeth, a fu’n amhrisiadwy.”

Dywedodd Helena Holrick, cyfarwyddwr Speaker Insight Ltd:

"Yn Speaker Insight, rydym yn hyrwyddo arweinwyr meddwl a newidwyr sydd eisiau helpu eraill a chael effaith gadarnhaol ar y blaned. Mae dull a methodoleg Hayley yn arloesol, yn ysbrydoledig ac o bosibl yn newid bywyd ar lefel genedlaethol a hyd yn oed yn fyd-eang, ac mae ei gweledigaeth yn cyd-fynd â hynny addewid.

Trwy gefnogaeth Gwyddorau Bywyd a Phrifysgol Bangor, a'r rhaglen Accelerate, mae gan raglen EmotionMind Dynamic gyfle llawer gwell i ddod yn gefnogaeth brif ffrwd i lawer ac i fod yn rhan o'r ateb i'r materion cymdeithasol llawer ehangach sy'n ymwneud ag iechyd meddwl. Rydyn ni mor falch bod prosiectau fel y rhain yn bodoli i gefnogi ChangeMakers y dyfodol, fel eu bod nhw'n cael eu lleisiau a'u prosiectau wedi'u clywed, ac i fod yn rhan o wneud i hynny ddigwydd. "

Dywedodd Dr Mary Lynch, Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor:

"Mae'r Hwb Gwerth Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor yn falch iawn o fod yn bartner yn y prosiect cydweithredol hwn. Mae ein tîm yn gyffrous i ymuno â Hayley Wheeler a thîm Cyflymu Prifysgol Caerdydd i gynnal gwerthusiad Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad, a fydd yn amcangyfrif y gwerth cymdeithasol a gynhyrchir yn ôl canlyniadau rhaglen EmotionMind Dynamic Hayley. Rhagwelir y bydd y dull cydweithredol hwn rhwng timau academaidd a Hayley Wheeler yn rhoi mewnwelediadau gwerthfawr i'w dull anghlinigol arloesol o fynd i'r afael ag iechyd a lles meddwl. "