Ar 9 Gorffennaf, croesawodd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru arbenigwyr o’r byd academaidd, y trydydd sector, y diwydiant, y maes iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer ein digwyddiad HWB SBARC cyntaf.

Hub Sparks

Mae dros 800,000 o bobl 50+oed yn byw yng Nghymru ar hyn o bryd ac mae disgwyl i’r nifer godi i 1 filiwn+ yn yr 20 mlynedd nesaf. Felly mae'r agenda Heneiddio’n Iach yn bwysicach nawr nag erioed.  

Wrth i boblogaeth Cymru heneiddio, felly hefyd y mae’r pwysau ar y ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Gan nad yw’r cysyniad o les yn cael ei ddeall na’i adlewyrchu’n ddigonol yn y modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus o ddydd i ddydd eu darparu, ein rôl ni yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw dod â rhanddeiliaid ynghyd i nodi’r problemau sy’n gysylltiedig â Heneiddio’n Iach, trafod atebion posibl a hyrwyddo cynaliadwyedd ac arloesi. 

Heneiddio’n iach, unigrwydd ac arwahanu cymdeithasol

Ymunodd yr ymchwilydd Dr Deborah Morgan o’r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) â ni i rannu enghreifftiau go iawn o sut gall unigrwydd effeithio ar iechyd meddwl a lles ein cenhedlaeth hŷn.  Fe edrychom yn benodol ar sut mae unigrwydd ac arwahanu cymdeithasol:

  • yn ffactor risg mewn morbidrwydd a marwoldeb
  • yn arwain at ganlyniadau tebyg i’r rheini ar gyfer pobl sy’n smygu, pobl sydd ddim yn gwneud digon o ymarfer corff a phobl sydd â phwysau gwaed uchel
  • yn gysylltiedig â llai o ymwrthedd i heintiau, dirywiad gwybyddol a chyflyrau iechyd meddwl e.e. dementia ac iselder
  • yn arwain at dderbyn mwy o achosion brys i’r ysbyty, arhosiad hirach ac oedi cyn rhyddhau.

Roedd y straeon a rannwyd ar y diwrnod yn real, yn emosiynol ac yn procio’r meddwl.  Trafodwyd ymgysylltiad uniongyrchol, gweithgarwch corfforol, addysg, hamdden, tai, cludiant, cyfleusterau cymunedol a chyflogaeth.  Yn ogystal â hyn, roeddem wrth ein bodd o weld cynrychiolwyr yn archwilio’r cyfleoedd i gydweithio ac ariannu ceisiadau, maes y mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn ymrwymedig i’w gefnogi a’i ddatblygu. 

Cymryd rhan

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn dod â phartneriaid ynghyd i archwilio cyfleoedd i ddatblygu mewn perthynas â’r agenda Heneiddio’n Iach yng Nghymru.  Os oes gennych chi neu eich sefydliad ddiddordeb mewn cymryd rhan yn hyn, cysylltwch â Dr Liz Jones, Pennaeth Datblygu BID yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar: E-bost elizabeth.jones@lshubwales.com Rhif Ffôn Uniongyrchol: 029 2046 Rhif Ffôn Symudol: 07990 043664.

Beth nesaf? Gweithgarwch corfforol a heneiddio’n iach yng Nghymru

Yn ystod ein digwyddiad HWB SBARC nesaf: Gweithgarwch corfforol a heneiddio’n iach yng Nghymru, byddwn yn clywed gan Dr Joanne Hudson - yr Athro Cysylltiol mewn Gwyddor Chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe, ar 24 Medi 2019.  I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu eich lle, cliciwch yma.