Dewiswyd Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn partneriaeth â Gwasanaeth Gwybodeg GIG CymruPrifysgol Abertawe a Gofal Cymdeithasol Cymru fel un o bum Labordy Data Rhwydweithio ‘The Health Foundation’. Byddant yn derbyn hyd at £400,000 dros ddwy flynedd i ffurfio cymuned o ddadansoddwyr sy'n gweithio ar yr heriau iechyd a gofal mwyaf.

A photo of lines connecting dots

Labordai Data Rhwydweithiol ‘The Health Foundation’ yw’r cyntaf o’i fath a bydd yn rhoi mewnwelediadau o ddata i arweinwyr systemau iechyd cenedlaethol a lleol er mwyn weithredu i wella iechyd a gofal y DU.

Cydlynwyd y cais gan dîm Ecosystem Iechyd Digidol Cymru a bydd yn gweld y partneriaid yn gweithio gyda'i gilydd i wneud y defnydd gorau o ddata arferol i fynd i'r afael ag iechyd, atal ac anghydraddoldebau ar draws cenedlaethau, a chynhyrchu mewnwelediadau gwerthfawr i lywio'r penderfyniad i wella iechyd y boblogaeth yng Nghymru.

Yn ogystal â'r Labordy Data Rhwydweithiol yng Nghymru, bydd pedwar Labordy Data Rhwydweithio arall ledled y DU:

  • Canolfan Gwyddor Data Iechyd Aberdeen (ACHDS) sy'n cynnwys NHS Grampian a Phrifysgol Aberdeen
  • Imperial College Health Partners (ICHP), Sefydliad Arloesi Iechyd Byd-eang (IGHI), Imperial College London (ICL), a CCGs Gogledd Orllewin Llundain
  • CCG Lerpwl, Partneriaeth Cilgwri Iach a Swyddfa Cyngor ar Bopeth
  • CCG Leeds a Chyngor Dinas Leeds

I ddarganfod mwy am y Labordai Data Rhyngweithio.