Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Rydym wedi cydweithio ag Academi'r Gwyddorau Meddygol i lansio’r Gronfa Sbarduno Arloesedd mewn Canser Menywod. 

Two women talking

Mae gofal canser menywod yn flaenoriaeth hanfodol yn y DU ac mae angen atebion arloesol ar frys i wella triniaeth, diagnosis a phrofiadau cleifion. I fynd i’r afael â’r her hon, rydym wedi cydweithio ag Academi'r Gwyddorau Meddygol i lansio’r Gronfa Sbarduno Arloesedd mewn Canser Menywod

Rydym yn cynnig £5,000-£10,000 o gyllid sbarduno i gefnogi sefydliadau yn y DU sy’n datblygu prosiectau trawsnewidiol. Drwy gydweithio ac arloesi, ein nod yw mynd i'r afael ag un o’r heriau mwyaf dybryd ym maes gofal iechyd. 

Bydd y cyfnod ymgeisio ar agor o 03 Chwefror 2025 tan 12:00pm ar 21 Chwefror 2025.

Gwahoddir sefydliadau sydd wedi cofrestru yn y DU, gan gynnwys timau prosiect neu adrannau, i wneud cais. Rhaid i brosiectau ddangos cydweithio amlddisgyblaethol ac ar draws sectorau, a chynnwys o leiaf un partner yng Nghymru. 

Yn ogystal â chymorth ariannol, bydd y rhai y dyfernir cyllid iddynt hefyd yn cael cymorth wedi’i deilwra gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac Academi’r Gwyddorau Meddygol, gan gynnwys arweiniad i ddatblygu partneriaethau ac i sicrhau bod y prosiect yn cael yr effaith fwyaf bosibl, a mynediad at rwydweithiau o arbenigwyr.

Dywedodd Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: 

“Gallai'r gronfa ymchwil hon wneud gwahaniaeth enfawr i iechyd menywod ac mae'n dangos pa mor bwysig yw chwilio am atebion arloesol i wella gofal cleifion. Mae mentrau fel hyn yn atgyfnerthu uchelgeisiau’r Cynllun Iechyd Menywod i wella gwasanaethau gofal iechyd i fenywod. Edrychaf ymlaen at weld y gronfa ymchwil hon yn datblygu ac at weld effaith y prosiectau sy’n elwa arni.”

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

“Rydyn ni’n falch o lansio’r Gronfa Sbarduno ar gyfer Canser Menywod. Mae mentrau fel hyn yn hanfodol er mwyn datblygu atebion arloesol i fynd i'r afael â'r heriau a wynebir gan fenywod y mae canser yn effeithio arnynt. Rwy’n falch ein bod yn cydweithio ag Academi’r Gwyddorau Meddygol, gan ymrwymo i wella gofal canser i gleifion ym mhob cwr o’r wlad.”

Dywedodd yr Athro James Naismith, Is-lywydd (Anghlinigol) Academi'r Gwyddorau Meddygol: 

“Mae’r Gronfa Sbarduno Arloesedd mewn Canser Menywod yn gydweithrediad pwysig rhwng Academi’r Gwyddorau Meddygol a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i ysgogi newid trawsnewidiol ym maes gofal canser menywod. Drwy ddwyn ynghyd arbenigedd amrywiol o'r byd academaidd, diwydiant, gofal iechyd a'r trydydd sector, rydyn ni’n creu cyfleoedd i ymchwilwyr arloesi gyda dulliau newydd a fydd yn gwella gofal a chanlyniadau yn uniongyrchol. Mae'r fenter hon yn cyd-fynd â'n hymrwymiad i chwalu rhwystrau rhwng sectorau a sicrhau bod ymchwil yn troi'n fanteision gwirioneddol i gleifion."

Anogir sefydliadau sydd â diddordeb i ddarllen y Ddogfen Ganllawiau i gael gwybodaeth fanwl am gymhwysedd, hyd a lled y fenter, a’r cymorth sydd ar gael. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu’n Saesneg a dylid eu hanfon at hello@lshubwales.com erbyn y dyddiad cau a nodir. 

Mae rhagor o wybodaeth ar y dudalen ymgeisio yma.