Mae rhaglen Therapïau Datblygedig Cymru (ATW) wedi cael ei sefydlu i ddatblygu’r manteision sydd yn cael eu cyflwyno yn sgil therapïau newydd a thrawsnewidiol i bobl Cymru, ac mae'n bleser gennym gyhoeddi y bydd y rhaglen yn cael ei lansio’n swyddogol ar 4 Awst, 2020.
Nod y rhaglen ydy cydweithio â phartneriaid strategol a rhanddeiliaid i roi mynediad teg i gleifion at Gynhyrchion Meddyginiaethol Therapïau Datblygedig sy'n dod i'r amlwg er mwyn gwella iechyd, lles a ffyniant i bobl Cymru.
Chwaraeodd y rhaglen, sydd yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, ran bwysig yn y gwaith o gyflwyno CAR-T (chimeric antigen receptor T-cell) i Gymru, drwy gydweithio â'i bartneriaid allweddol yn y diwydiant.
Mae therapi CAR-T yn fath o feddygaeth fanwl, sy'n cynnwys addasu celloedd imiwnedd unigolyn yn enetig i adnabod a dinistrio celloedd canser; a thrwy hynny, gobeithio, gallu trin cyflyrau sydd wedi bod yn wrthwynebus i fathau eraill o feddyginiaethau a thriniaethau.
Meddai’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething:
"Rwy'n falch bod Cymru yn gartref i sector ymchwil gofal iechyd bywiog, a diolch i raglen Therapïau Datblygedig Cymru, mae gennym gyfle i ddod yn arweinydd cydnabyddedig yn y maes cyffrous ac arloesol hwn.
“Drwy weithio mewn partneriaeth â'n cydweithwyr yn y diwydiant, y GIG, mewn meysydd academaidd ac yn y trydydd sector, gallwn wireddu potensial llawn therapïau datblygedig, a gwella'r canlyniadau i bobl sy'n dioddef o amrywiaeth o glefydau cronig, prin, sy'n gysylltiedig â ffordd o fyw."
Fel rhan o'r lansiad ac mewn partneriaeth â Therapïau Datblygedig Cymru, bydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cynnal trafodaeth banel arbenigol ar Therapïau Datblygedig Cymru, ac ar y cyfleoedd mae'n eu cynnig ar gyfer diwydiant, academia a gofal iechyd.
Bydd y rhith-ddigwyddiad Sesiwn a Holi, sef ‘ATMPs – Y Dirwedd, yr Heriau a'r Cyfleoedd Yng Nghymru’, yn cael ei gynnal ar ddydd Mawrth, 4 Awst 2020 am hanner dydd, BST, a bydd yn cynnwys amrywiaeth o arbenigwyr yn y diwydiant.
Bydd y sesiwn 90 munud yn trafod heriau, cyfleoedd a photensial meddygaeth fanwl yng Nghymru. Bydd Cath O'Brien MBE, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru ac aelod o Fwrdd Canolfan Gwyddorau Bywyd Cymru, yn cadeirio'r digwyddiad, a fydd yn cynnwys cyfraniadau gan:
- Dr Mark Briggs, Pennaeth Therapi Cell a Genynnau – Gwasanaeth Gwaed Cymru
- Yr Athro. Steve Conlan, Athro Bioleg Foleciwlaidd a Chelloedd - Prifysgol Abertawe
- Dr Ceri Jones, Hemotolegydd Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
- Len Richards, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Meddai Len Richards, sydd hefyd yn Uwch Swyddog Cyfrifol y rhaglen:
"Rwyf wrth fy modd ynghylch rhaglen Therapïau Datblygedig Cymru, a'r gobaith sylweddol mae meddygaeth fanwl gywir yn ei chynnig ar gyfer clefydau prin neu enetig na ellir eu gwella, sy’n cynnwys rheoli'r clefyd dros y tymor hir, a gwella'r clefyd hyd yn oed.
"Mae'r triniaethau hyn yn wahanol iawn i'r ffordd rydym yn rhedeg ein gwasanaethau ar hyn o bryd, ac rwy'n hyderus y bydd cyfleoedd mawr yn ymwneud â chynhyrchu, cludo a chymhwyso Cynhyrchion Therapïau Datblygedig Cymru yn dod i’r amlwg wrth i ni weithio tuag at greu Cymru iachach."
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn bartner cyflawni pwysig ar gyfer rhaglen Therapïau Datblygedig Cymru (Adv TX), ac mae wedi ymrwymo i weithio gydag amrywiaeth o grwpiau diddordeb arbennig a chonsortia, a fydd yn helpu i ddarparu cadwyn gyflenwi ar gyfer Cynhyrchion Therapiau Meddyginiaethol Datblygiedig ar draws Cymru a Gorllewin Canolbarth Lloegr.
Meddai Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Canolfan Gwyddorau Bywyd Cymru:
"Rydym yn gyffrous dros ben gyda’r cynnydd presennol mewn Cynhyrchion Therapïau Meddyginiaethol Cymru sydd yn cael ei wneud yng Nghymru, ac rydym wedi ymrwymo'n llawn i gefnogi'r gwaith o dreialu a mabwysiadu triniaethau newydd yn Therapïau Datblygedig Cymru. Ein cylch gwaith ydy ymgysylltu â darparwyr yn y diwydiant sydd yn gallu ein helpu i greu cadwyn gyflenwi gynaliadwy ar gyfer therapi genynnau a chelloedd yng Nghymru, ac rydym yn edrych ymlaen at gam nesaf y datblygiad hwn ."
Dewch o hyd i fwy
Bydd Therapiau Datblygedig Cymru yn lansio gwefan newydd hefyd, a fydd yn gartref digidol i newyddion a digwyddiadau diweddaraf y rhaglen. Gellir cael mynediad i’r wefan drwy fynd i www.advancedtherapies.wales.
Mae Cynnyrch Meddyginiaethol Therapiwtig Uwch yn un o feysydd effaith Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Dewch o hyd i fwy am y maes effaith yma.