Rydym ni’n falch iawn o noddi Gwobrau GIG Cymru eleni. Mae’n ddigwyddiad nodedig sy’n dathlu llwyddiannau arbennig ym maes iechyd a gofal yng Nghymru.

Cynhelir y digwyddiad yng Nghlwb Criced Morgannwg ar 18 Tachwedd rhwng 12:00 a 16:00pm.
Rydym ni’n falch o gefnogi digwyddiad sy’n rhoi cydnabyddiaeth i unigolion a sefydliadau am arloesi a gwella gwasanaethau a chanlyniadau i gleifion ledled Cymru.
Mae’r categorïau eleni yn cynnwys:
- Gwobr Gofal Diogel GIG Cymru
- Gwobr Gofal Amserol GIG Cymru
- Gwobr Gofal Effeithiol GIG Cymru
- Gwobr Gofal Effeithlon GIG Cymru
- Gwobr Gofal Teg GIG Cymru
- Gwobr Gofal sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn GIG Cymru
- Gwobr Arweinyddiaeth GIG Cymru
- Gwobr Cynaliadwyedd Gweithlu GIG Cymru
- Gwobr Diwylliant Tîm GIG Cymru
- Gwobr Gwybodaeth GIG Cymru
- Gwobr Dysgu ac Ymchwil GIG Cymru
- Gwobr Dull Systemau Cyfan GIG Cymru
Rydym ni’n falch o glywed bod dau o’r prosiectau rydym ni’n eu cefnogi, sef Cydymffurfio â Meddyginiaeth yn Ddigidol a Hyfforddiant Realiti Rhithwir ar gyfer Cartrefi Gofal, wedi cyrraedd y rownd derfynol. Llongyfarchiadau mawr i bawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol eleni. Mae eich ymroddiad a’ch creadigrwydd yn haeddu cydnabyddiaeth, ac rydym ni’n falch iawn o gael tynnu sylw at eich llwyddiannau. Rydym ni’n edrych ymlaen at ddiwrnod o ddathlu prosiectau sy’n trawsnewid iechyd a gofal yng Nghymru.
Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Rydym ni’n falch o noddi Gwobrau GIG Cymru eto eleni, gan roi cydnabyddiaeth i waith arbennig unigolion a sefydliadau o bob rhan o’r sector. Mae’r gwobrau hyn yn rhoi llwyfan i ni ddathlu’r gwaith arloesi a chydweithio sydd yn trawsnewid gofal yng Nghymru, ac rydym ni’n falch iawn o gael helpu i dynnu sylw at y llwyddiannau hyn.”
Dywedodd Naomi Joyce, Pennaeth Partneriaethau, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“A hithau’n gyfnod mor gythryblus, a chydweithwyr yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yn gorfod ceisio ei dal hi’n bob man, mae’n bwysig iawn ein bod yn bachu ar y cyfle hwn i roi cydnabyddiaeth i’r rhai sy’n arloesi a chydweithio. Mae eu hymroddiad yn ysbrydoli pawb, ac rydym ni’n edrych ymlaen at ddathlu eu llwyddiannau.”
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn y seremoni ar 18 Tachwedd 2025. Ewch i weld rhagor o wybodaeth am y gwobrau, a’r enwebiadau eleni yma.