Mae Gwobrau GIG Cymru yn dathlu gwaith gwella ansawdd sydd wedi trawsnewid y profiad a’r canlyniadau i bobl yng Nghymru. Mae’n darparu ac yn arddangos y staff iechyd a gofal dawnus sy’n cydweithio i wella gwasanaethau a gofal cleifion ledled Cymru.
Roedd yn bleser gennym gefnogi gwobrau eleni fel prif noddwr a hefyd i gyflwyno gwobr Gofal Person-Ganolog Syr Mansel Aylward i anrhydeddu ein cyn Gadeirydd.
The NHS Wales Awards continue to highlight the inspiring and impactful work that’s enhancing healthcare services across the nation. As a headline sponsor, Life Sciences Hub Wales is proud to support this celebration of excellence and innovation. On behalf of all the team, I extend congratulations to all the winners and nominees for their outstanding efforts this year, and beyond.” Chris Martin, Chair, Life Sciences Hub Wales
It was great to attend and present at this year’s NHS Wales Awards, and to witness the exceptional work being done across health and social care in Wales. These awards celebrate not only the dedication and hard work happening across Wales, but also the innovative approaches that are reshaping the future of healthcare. I was proud to present the Sir Mansel Aylward Person-Centred Care Award, which holds special meaning, as it recognises those who are advancing the compassionate, patient-focused care that Sir Mansel championed. Congratulations to all the winners and finalists. - Chief Executive Officer at Life Sciences Hub Wales, Cari-Anne Quinn.
Neithiwr (dydd Iau 24 Hydref 2024), cyflwynwyd tair gwobr ar ddeg mewn seremoni a gynhaliwyd yng Nghaerdydd a fynychwyd gan y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol o bob rhan o GIG Cymru.
Enillwyr y gwobrau:
Gwobr Gofal Effeithiol GIG Cymru - Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru - Cyflwyno cyffuriau lleddfu poen Penthrox
Gwobr Gofal Effeithlon GIG Cymru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda - Llwybr diagnosis cyflym canser y brostad newydd
Gwobr Gofal Teg GIG Cymru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda - Gwella'r profiad i gleifion sydd â nam ar y synhwyrau
Gwobr Gwybodaeth GIG Cymru- Rhwydwaith Cardiofasgwlaidd Cymru - Defnyddio Methodoleg Gwella Ansawdd i leihau oedi yn y Llwybr Syndrom Coronaidd Acíwt Di-ST
Gwobr Arweinyddiaeth GIG Cymru - Gwerth Mewn Iechyd, Gweithrediaeth GIG Cymru - Ymgorffori Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth yng Nghymru ac ysbrydoli newid ar draws y byd
Gwobr Dysgu ac Ymchwil GIG Cymru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Rhaglen Addysg Lymffoedema Clinigol ar Lawr Gwlad ar gyfer Staff Cymunedol
Gwobr Gofal sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn GIG Cymru Syr Mansel Aylward - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - Ehangu Gofal Cefnogol di-ganser
Gwobr Gofal Diogel GIG Cymru - Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru - Y Rhaglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol
Gwobr Diwylliant Tîm GIG Cymru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - Micro-ddileu Hepatitis C yng Ngharchar Berwyn, sef carchar mwyaf y DU
Gwobr Gofal Amserol GIG Cymru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Gwella amseroldeb o ran defnyddio tiwb Nasogastrig ar uned Strôc Acíwt
Gwobr Dull Systemau Cyfan GIG Cymru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Clwstwr Cwmtawe: Model Iechyd Meddwl a Lles Emosiynol. Derbyniodd y prosiect hwn Gwobr Cyfraniad Eithriadol at Wella Gofal Iechyd hefyd
Gwobr Cynaliadwyedd Gweithlu GIG Cymru - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg - Datblygu amgylchedd dysgu aml-broffesiynol mewn ymarfer cyffredinol: Cefnogi dysgwyr heddiw i fod yn weithlu yfory
Dyma’r unfed tro ar bymtheg y mae Gwobrau GIG Cymru, a gynhelir gan Gwelliant Cymru, Gweithrediaeth GIG Cymru.
Dywedodd Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar a Phrif Weithredwr GIG Cymru:
“Llongyfarchiadau i’r enillwyr ond hefyd i bawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr heddiw. Mae Gwobrau GIG Cymru yn un o uchafbwyntiau fy mlwyddyn. Rwy’n falch iawn o weld ehangder y prosiectau gwella ansawdd sydd ar y gweill ar draws GIG Cymru i drawsnewid ein gwasanaethau ar gyfer y rhai yr ydym yn gofalu amdanyn nhw. Gobeithio bod pob un ohonoch yn haeddiannol falch o’ch cyflawniadau yn y cyfnod heriol hwn.”
I ddarllen mwy am bawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ac am wybodaeth am yr enillwyr eleni, ewch i gwobraugig.cymru.