Trydydd parti

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi ein bod yn noddi Gwobrau GIG Cymru 2024, digwyddiad nodedig sy’n dathlu llwyddiannau eithriadol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.

A woman presenting an award at a ceremony

Fel un o brif noddwyr y gwobrau, rydyn ni’n falch o ddarparu cefnogaeth drwy gydnabod bod sefydliadau’n gwneud cyfraniadau rhagorol ar draws y sector. Mae’r gwobrau’n darparu llwyfan sy’n dangos y gwaith ysbrydoledig sy’n cael ei wneud i wella gwasanaethau, hyrwyddo arloesedd ac, yn y pen draw, gwella canlyniadau i gleifion ar hyd a lled y wlad.

Dyma gategorïau gwobrau 2024:

  • Gwobr Gofal Diogel GIG Cymru
  • Gwobr Gofal Amserol GIG Cymru
  • Gwobr Gofal Effeithiol GIG Cymru
  • Gwobr Gofal Effeithlon GIG Cymru
  • Gwobr Gofal Teg GIG Cymru
  • Gwobr Syr Mansel Aylward am Ofal sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn yn GIG Cymru
  • Gwobr Arweinyddiaeth GIG Cymru
  • Gwobr Cynaliadwyedd Gweithlu GIG Cymru
  • Gwobr Diwylliant Tîm GIG Cymru
  • Gwobr Gwybodaeth GIG Cymru
  • Gwobr Dysgu ac Ymchwil GIG Cymru
  • Gwobr Dull Systemau Cyfan GIG Cymru

Rydyn ni’n arbennig o falch o gyflwyno’r wobr sydd wedi cael ei henwi er anrhydedd i’n Cyn-gadeirydd uchel ei barch, Syr Mansel Aylward. Bydd gwobr Syr Mansel Aylward am Ofal sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn yn dathlu prosiectau sy’n ymgorffori gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, sef achos y mae Syr Mansel wedi’i hyrwyddo’n angerddol yn ystod ei yrfa nodedig. Mae ei gyfraniadau i iechyd a gofal cymdeithasol yn amhrisadwy, ac mae’r wobr hon yn dathlu’r arweinyddiaeth dosturiol ac arloesi sy’n bodoli heddiw diolch iddo ef.

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: 

“Rydyn ni’n falch o noddi Gwobrau GIG Cymru 2024. Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod ymroddiad eithriadol timau ac unigolion, ac yn dathlu’r dulliau arloesol sy’n trawsnewid dyfodol gofal iechyd. Mae’n fraint cael cyflwyno Gwobr Syr Mansel Aylward am Ofal sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn, a chefais y fraint o weithio mor agos gydag ef. Mae arweinyddiaeth a brwdfrydedd Mansel dros ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn wedi cael dylanwad mawr, ac mae'n fraint cael helpu i gydnabod y rhai sy'n parhau â'i waith yn trawsnewid canlyniadau cleifion ym maes iechyd a gofal cymdeithasol." 

Dywedodd Rhodri Griffiths, Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

“Mae Gwobrau GIG Cymru yn cynnig llwyfan ysbrydoledig i ddangos yr ymdrechion arloesol a chydweithredol sy’n ail-lunio’r ffordd mae gofal yn cael ei ddarparu ar draws y wlad. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch iawn o fod yn rhan o’r daith hon, gan gefnogi mentrau sy’n gwella bywydau ac yn gwella ansawdd gofal i bawb.” 

Bydd yr enillwyr yn cael eu datgelu yn y seremoni ar 24 Hydref. I gael rhagor o wybodaeth ac i edrych ar enwebiadau eleni, cliciwch yma.