Roedd Gwobrau GIG Cymru yn dathlu gwaith caled a llwyddiannau staff gofal iechyd ledled y wlad sydd wedi gwneud gwahaniaeth i ansawdd bywyd a gofal i gleifion. 

 

Doctors

Roedd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch iawn o gefnogi’r digwyddiad a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 20 Hydref. Rhoddwyd naw gwobr i fudiadau ledled Cymru am eu hymdrechion arloesol a fydd, yn y pendraw, yn helpu i drawsnewid canlyniadau iechyd a gofal i bobl yng Nghymru. 

Pwy oedd enillwyr y gwobrau? 

Cafwyd amrywiaeth wych o brosiectau ar y rhestr fer ym mhob categori. Dyma’r rhai a ddaeth i’r brig: 

Cyflwyno gwasanaethau iechyd a gofal o werth uwch: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 

Roedd y categori hwn yn canolbwyntio ar sut roedd prosiectau wedi mynd ati i greu model newydd a mwy hygyrch o ran gofal lliniarol i gefnogi cleifion sy’n marw o fethiant y galon, a hynny drwy ddefnyddio dull Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth ac ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau. 

Cyflwyno gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda 

Sefydlwyd y Cynllun Gwella Llif System gyda ffocws sylweddol ar weithredu methodoleg SAFER yn ardal Sir Gaerfyrddin i dreialu gweithdrefnau rhyddhau cleifion o’r ysbyty cyn gynted ag y cânt eu hoptimeiddio’n feddygol am gyfnod o adsefydlu ac asesu – cafwyd effaith gadarnhaol ar ddadgyflyriad cleifion. Enillodd y prosiect hwn y wobr Cyfraniad Eithriadol i Drawsnewid Iechyd a Gofal hefyd. 

Grymuso pobl i gyd-gynhyrchu eu gofal: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 

Dyfarnwyd y wobr hon i’r Grŵp Partneriaeth Profiad Bywyd Covid Hir, lle bu cleifion yn gweithio gyda staff clinigol i gyd-gynhyrchu llwybr clinigol newydd a arweiniodd at Raglen Hunan-reoli EPP gyntaf y DU sydd wedi’i theilwra’n benodol ar gyfer cleifion sy’n dioddef o Covid hir. 

Cyfoethogi llesiant, galluogrwydd ac ymgysylltu’r gweithlu iechyd a gofal: Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda 

Gwaith sy’n mynd i’r afael â methiant llif gwaith ac sy’n cefnogi gwelliant yng ngwasanaeth Ysbyty Cyffredinol Glangwili enillodd y wobr hon. Yno, nodwyd bod nifer uchel o geisiadau ad-hoc yn cael eu gwneud gan storfeydd fferylliaeth ar hyn o bryd, gan achosi gorflinder a straen i staff. Aethant i’r afael â hyn drwy gynnal cylchoedd a hyfforddiant Cynllunio-Gwneud-Astudio-Gweithredu, ac mae hyn wedi arwain at welliant mewn effeithlonrwydd wrth reoli stoc ar wardiau ysbyty yn ogystal â llesiant a boddlonrwydd staff. 

Gwella iechyd a llesiant: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr  

Daeth y prosiect hwn i’r brig am ei waith yn mynd o gwmpas mewn cerbyd diagnosis yn asesu cleifion y galon ar ddechrau'r pandemig. Roedd hyn yn cyfyngu ar ymweliadau cleifion â’r ysbyty ac yn darparu’r gallu i gynnal ymweliadau cartref â chleifion nad oeddent yn gallu cael mynediad at gludiant ond a oedd yn wynebu risg uchel o gael eu derbyn. 

Gwella diogelwch cleifion: Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe 

Rhoddwyd y wobr hon i brosiect sy’n rhoi rhestr wirio ar waith yn ystod llawdriniaethau i leihau’r risg o waedu neu o fod angen trallwysiad gwaed.  Roedd hyn wedi arwain at ostyngiad sylweddol yn y defnydd o gynnyrch gwaed fesul claf, gan arwain at welliannau o ran diogelwch cleifion a’r defnydd o adnoddau. 

Darparu gwasanaethau mewn partneriaeth ar draws GIG Cymru: Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda 

Bu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar gynllun peilot Gofal Brys yr Un Diwrnod y GIG (SDEC). Creodd y prosiect buddugol hwn lwybr mynediad uniongyrchol i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru at SDEC er mwyn helpu i fynd i’r afael ag oedi wrth drosglwyddo cleifion.  

Gweithio’n ddi-dor ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector: Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan 

Gweithiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gyda Chymdeithas Tai Unedig Cymru i greu’r Gwasanaeth Dychwelyd Pwrpasol. Nod y Gwasanaeth yw galluogi unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl hirdymor a chymhleth, ac sy’n byw mewn lleoliadau cost uchel neu y tu allan i’r ardal, i ddychwelyd yn ôl i’w cymuned leol. 

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: 

“Mae’n wych gweld Gwobrau GIG Cymru yn ôl ar gyfer 2022. Maent yn destun balchder mawr i holl staff y GIG sy’n ymroi eu bywydau i anghenion a gofal pobl eraill. Mae’r straeon ysbrydoledig am ymroddiad, dyletswydd ac arloesedd yn y ffordd rydym yn gofalu am ac yn gwella bywydau pobl eraill mewn cyfnod mor heriol yn ysbrydoliaeth i ni i gyd ac mae’n taflu goleuni ar y staff gwych ac ymroddedig sydd gennym yn gweithio i’r GIG yng Nghymru.” 

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Cari-Anne Quinn: 

“Roedd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch iawn o fod wedi cefnogi’r gwobrau eleni. Hoffem longyfarch yr holl enillwyr a’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol. Maent yn enghreifftiau o’r gwaith anhygoel sy’n cael ei wneud gan staff iechyd a gofal cymdeithasol i drawsnewid y system er mwyn helpu i ddiwallu anghenion heddiw ac yfory.” 

Os ydych chi’n gweithio i ddarparwr iechyd neu ofal cymdeithasol ac yn rhedeg prosiect trawsnewid rydych chi eisiau cymorth ar ei gyfer, cysylltwch â ni drwy lenwi ein ffurflen fer ar gyfer Ymholiad Arloesi.