Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cydweithio â MediWales i gyflwyno Gwobrau Arloesi MediWales 2022. Gan ddod ag arweinwyr arloesi o feysydd iechyd, gofal cymdeithasol a diwydiant at ei gilydd, roedd y digwyddiad hwn yn cydnabod ac yn dathlu’r llwyddiannau eithriadol sydd wedi bod ar draws y sector.
Cynhaliwyd Gwobrau blynyddol MediWales am yr ail dro ar bymtheg yng Ngwesty Mercure Holland House yng Nghaerdydd ar 8 Rhagfyr. Roedd y rheini a oedd yn bresennol yn dathlu llwyddiant arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gydnabod y gwaith caled a’r llwyddiannau eithriadol a welwyd ledled y sector.
Cyflwynydd y seremoni ar y cyd oedd Chris Martin, Cadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, gydag araith agoriadol gan ein Prif Swyddog Gweithredol, Cari-Anne Quinn. Roedd y gwobrau’n cynnwys amrywiaeth o gategorïau, wedi’u rhannu rhwng iechyd a diwydiant. Roedd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn edrych ymlaen yn arw at noddi a chyflwyno’r wobr ar gyfer ‘Cydweithio rhwng GIG a’r Diwydiant’.
Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i ddeall a rhoi cydnabyddiaeth i’r ecosystem arloesi ym maes gwyddorau bywyd. Mae enillwyr pob categori yn y gwobrau yn tynnu sylw at gryfder yr arloesi ar draws y diwydiant a gofal iechyd.
Enillwyr Gwobrau’r Diwydiant
Arloesi: Ceryx Medical
Mae Ceryx Medical wedi datblygu rheolydd calon sy’n gallu adfer rhythm calon iach. I bobl sy’n dioddef o fethiant difrifol ar y galon, mae rheolydd calon Ceryx wedi gwella gweithrediad y galon yn sylweddol ac wedi gwrthdroi niwed. Mae Ceryx Medical hefyd wedi llofnodi cytundeb cydweithredu ag Osypka Medical, i gyflawni astudiaeth glinigol mewn pobl am y tro cyntaf ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Cwmni newydd: Copner Biotech
Sefydlwyd Copner Biotech yn 2020 ac mae’n fusnes biotechnoleg newydd sy’n canolbwyntio ar ddatblygu technolegau newydd ar gyfer meithrin celloedd 3D, gan gynnwys sgaffaldau 3D parod a chaledwedd a meddalwedd y genhedlaeth nesaf ar gyfer bioargraffu. Mae’r cwmni wedi adeiladu portffolio helaeth o Eiddo Deallusol, wedi ffurfio rhwydweithiau dosbarthu byd-eang ac wedi sicrhau cyllid SMART Cymru ac Innovate UK.
Partneriaeth â'r GIG: Llusern Scientific
Mae Llusern Scientific yn arbenigo mewn diagnosteg pwynt gofal symudol sy’n hawdd ei ddefnyddio. Mae’r cwmni wedi bod yn gweithio â GIG Cymru ar ddatblygu ei dechnoleg ers ei sefydlu. Maent yn arwain prosiect sy’n cael ei ariannu gan Gomisiwn Bevan ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Sefydliad Tritech, gan ganolbwyntio ar ddatblygu eu prawf ar gyfer Haint ar y Llwybr Wrinol.
Allforio: Brainbox
Mae Brainbox yn darparu dulliau integredig o ysgogi’r ymennydd nad ydynt yn fewnwthiol ac atebion delweddu’r ymennydd ar gyfer ymchwil niwrowyddoniaeth ledled y byd mewn amgylcheddau clinigol ac academaidd. Yn ystod amodau masnachu rhyngwladol heriol, mae Brainbox wedi cynyddu gwerthiant allforion dros 22.5% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Cyflawniad Eithriadol: Creo Medical
Mae Creo yn datblygu dyfeisiau sy’n darparu atebion ar gyfer triniaeth endosgopig, gan ymyrryd cyn lleied â phosibl. Yn ystod hanner cyntaf 2022, roedd nifer y clinigwyr a oedd yn cael hyfforddiant ar dechnoleg Creo wedi dyblu o’i gymharu â’r chwe mis blaenorol, gyda chynnydd o 100% yn nifer y triniaethau a'r bobl sy’n defnyddio eu cynnyrch Speedboat yn rheolaidd dros yr un cyfnod. Mae Creo hefyd wedi llofnodi cytundebau cydweithredu tymor hir gyda sefydliadau roboteg Intuitive a CMR.
Gwobr y Beirniaid Diwydiant: ImmunoServ
Mae ImmunoServ yn gwmni ymchwil contractau yng Nghaerdydd sy’n arbenigo mewn imiwnoleg, imiwnotherapiwteg, ymchwil i frechlynnau, a monitro imiwnedd. Drwy gydol pandemig Covid-19 mae prawf celloedd T ImiwnoServ wedi cefnogi ymchwil i imiwnedd i Covid-19, effeithiolrwydd brechlynnau a thrin cleifion.
Gwobrau Iechyd
GIG Cymru yn Gweithio gyda Diwydiant: Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Mae’r Bwrdd Iechyd wedi gweithio’n agos â Zimmer Biomet i gyflwyno’r cymhwysiad digidol MyMobility ar gyfer cleifion sy’n aros am lawdriniaeth cymalffurfiad (arthroplasty). Mae MyMobility yn cefnogi cleifion drwy ddarparu gwasanaeth rhagsefydlu ac adsefydlu ar ôl llawdriniaeth, fideos a chanllawiau cyfarwyddyd i sicrhau bod cleifion yn cael eu hoptimeiddio'n feddygol ar bob cam o'r daith wrth gael cymal newydd.
Technoleg ac Effaith Ddigidol: Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Maent wedi rhoi meddalwedd cefnogi penderfyniadau clinigol newydd ar waith sydd wedi’i integreiddio â’r systemau presennol mewn canolfannau galwadau 999 i helpu nyrsys, parafeddygon a chlinigwyr iechyd meddwl i ymgynghori â chleifion o bell. Mae’r system LowCode/ECNS yn defnyddio algorithmau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i helpu i gyflawni hyn.
Cyflymu Arloesedd a Thrawsnewid: Rhaglen Genedlaethol Cellulitis a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Ers mis Mawrth 2020, cysylltir â chleifion sy’n cael eu derbyn i ysbytai Cymru oherwydd cellulitis i drefnu apwyntiad clinigol er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth, darparu ymyriadau i wella canlyniadau a lleihau’r achosion o ail-ddigwydd a phwysau sy’n codi o ganlyniad i ofal heb ei drefnu. Mae canlyniadau’n cael eu casglu, gan gynnwys drwy CELLUPROM, sef dull newydd sbon o fesur canlyniadau y mae cleifion yn eu cofnodi yng nghyswllt cellulitis. Mae’r adnodd arloesol hwn wedi lleihau nifer yr achosion o cellulitis sy’n digwydd dro ar ôl tro yn sylweddol o 5432 i 47, sy’n cyfateb i dros £10 miliwn mewn costau osgoi.
Gwobr Arloesi drwy Gydweithio mewn Gofal Cymdeithasol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Deilliodd y prosiect ‘Bechgyn Ar Goll’ o Raglen Ymyriad wedi’i Dargedu CAMHS Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn partneriaeth â Gwasanaethau Addysg yn Sir Ddinbych. Mae’n defnyddio rhwydweithiau addysgol lleol i gynnig cwnsela a seicotherapi i fechgyn a dynion ifanc sy’n ystyriol o ddynion ac sy’n defnyddio’r theori Eco neu’r therapi ‘Siarad wrth Gerdded’, lle mae’r ymyriad therapiwtig yn canolbwyntio ar weithgareddau ar y cyd, sy’n aml yn digwydd yn yr awyr agored.
Gwobr Partneriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda Diwydiant: Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Mae Cofnod Gofal Nyrsio Cymru yn system ddigidol sy’n gweddnewid y ffordd y mae nyrsys yn cofnodi, storio, rhannu a chael gafael ar wybodaeth am gleifion. Yn hytrach na defnyddio dogfennau papur, mae nyrsys yn defnyddio dyfeisiau digidol i gipio gwybodaeth a’i storio’n ddiogel, er mwyn i bawb sy’n rhoi gofal allu cael gafael ar yr un wybodaeth ddiweddaraf. Drwy fynd yn ddigidol yng nghyswllt Cofnod Gofal Nyrsio Cymru, mae nyrsys wedi dweud eu bod yn teimlo’n fwy cadarnhaol am gofnodi gofal.
Yn ôl Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Roedd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch iawn o weithio gyda MediWales unwaith eto i ddathlu'r llwyddiannau gwych sydd wedi bod o ran arloesi ym maes gofal iechyd. Roedd yn wych gweld cynifer yn dod at ei gilydd i rannu’r llwyddiannau niferus ar draws y sector, ac i gydnabod cyfraniadau arloesol cwmnïau sy’n gweithio tuag at Gymru iachach. Roedd y noson yn ein hatgoffa o’r berthynas gref a’r ysbryd cydweithredol sy’n bodoli rhwng iechyd, gofal cymdeithasol a diwydiant.”
Dywedodd Gwyn Tudor, Prif Swyddog Gweithredol MediWales:
“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gweithio gyda’n partneriaid i gefnogi ac arddangos creadigrwydd a chydweithio yn ein sector. Mae sefydliadau iechyd a gofal wedi bod dan gryn bwysau eleni ac maent yn dal i wynebu heriau sylweddol. Mae Gwobrau Arloesi MediWales yn cydnabod y cyfraniad y gall arloesi a phartneriaethau ei wneud o ran cefnogi’r ymdrech hollbwysig hon.”
Dysgwch ragor a chysylltu â ni!
Mae gan Gymru ecosystem arloesi unigryw sy’n trawsnewid ein sefyllfa o ran iechyd, llesiant a’r economi. Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cydweithio â phartneriaid ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a diwydiant i helpu i wneud i hyn ddigwydd. P’un ai ydych chi’n fusnes bach, yn gwmni rhyngwladol mawr neu’n ddarparwr iechyd a gofal cymdeithasol, rydyn ni yma i helpu drwy ein hamrywiaeth eang o wasanaethau cymorth. Dysgwch sut gallwn ni helpu i gyflymu eich prosiect arloesol drwy lenwi ein ffurflen ymholiadau arloesi.