Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch iawn o fod yn bartneriaid yng Ngwobrau Arloesi MediWales 2022, a gynhelir ddydd Iau 8 Rhagfyr 2022 yng Ngwesty Mercure Holland House yng Nghaerdydd. Mae’r seremoni fawreddog yn ei hail flwyddyn ar bymtheg ac mae wedi ymrwymo i ddathlu arloesi ym maes gofal iechyd.

Chris Martin, Life Sciences Hub Wales Chairman, presenting at the 2021 Innovation Awards

Rydyn ni’n derbyn ceisiadau nawr, peidiwch â cholli allan!  

Caiff y Gwobrau Arloesi MediWales eu rhannu’n ddau gategori: Gwobrau’r Diwydiant a Gwobrau Iechyd. 

Dyma gategorïau’r gwobrau ar gyfer 2022: 

 

Gwobrau’r Diwydiant  

Dyma’r gwobrau sydd ar agor i gwmnïau Cymraeg, neu sydd ag ôl-troed yng Nghymru, ac sy’n gweithio ar draws y categorïau arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol:  

  • Arloesi 

  • Cychwyn busnes 

  • Partneriaeth â'r GIG 

  • Allforio 

  • Cyflawniad eithriadol 

Gwobrau Iechyd 

Mae byrddau iechyd Cymru neu sefydliadau sy’n gweithio ar y cyd â bwrdd iechyd yng Nghymru yn gymwys i wneud cais am y Gwobrau Iechyd. Rhaid i bob cais ddod gan y gweithwyr iechyd proffesiynol, clinigwyr neu’r bwrdd iechyd y mae’r cwmni wedi cydweithio â nhw. Dyma’r categorïau: 

  • GIG Cymru yn Gweithio gyda Diwydiant  

  • Technoleg ac Effaith Ddigidol 

  • Cyflymu Arloesedd a Thrawsnewid 

  • Gwobr Arloesi drwy Gydweithio mewn Gofal Cymdeithasol 

  • Gwobr Partneriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda’r Diwydiant  

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan, anfonwch e-bost at ella.james@mediwales.com, gan nodi pa bapurau cais yr hoffech eu cael. Gellir prynu tocynnau hefyd drwy e-bostio Ella.

 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 21 Hydref 2022. 

Dywedodd Chris Martin, Cadeirydd Bwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: 

“Mae’n deg dweud ein bod wedi cael blwyddyn brysur a llawn pwysau pan ddaw’n fater o ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rwy’n edrych ymlaen at dreulio rhywfaint o amser yn gwerthfawrogi’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud ar draws yr ecosystem yng Nghymru ac yn dathlu’r rheini sy’n dal i fynd y tu hwnt i bobl Cymru y Gwobrau Arloesi MediWales sy’n 17 oed eleni.” 

Dywedodd Gwyn Tudor, Prif Swyddog Gweithredol MediWales:  

“Rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru eto eleni i gyflwyno ein Gwobrau Arloesi MediWales, gan gymryd amser i gydnabod a dathlu gyda chydweithwyr ar draws y sectorau gwyddorau bywyd a thechnoleg iechyd yng Nghymru.” 

Pwy enillodd Gwobrau Arloesi 2021? Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.