Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Mae Gwobrau GIG Cymru yn ddigwyddiad nodedig blynyddol sy'n dathlu llwyddiannau eithriadol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan dynnu sylw at brosiectau a thimau anhygoel sy'n gwella ansawdd a diogelwch, yn ogystal â thrawsnewid profiadau a chanlyniadau i bobl yng Nghymru.

A woman presenting an award at a ceremony

Mae 36 o brosiectau wedi cyrraedd y rownd derfynol, lle bydd paneli beirniadu yn cwrdd â'r bobl hyn i archwilio eu prosiectau'n fanylach. Rydym ni'n falch iawn o glywed bod dau brosiect gofal cymdeithasol rydym ni'n eu cefnogi wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y rownd derfynol.  

Cydymffurfio â Meddyginiaeth Ddigidol – Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Lleihau Niwed, Adfer Hyder: Mae’r Dull Digidol cydweithredol o Ymdrin ag Arferion Meddyginiaethu mwy Diogel wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Gwobr Gofal Diogel GIG Cymru.  

Mae rheoli meddyginiaeth yn her gynyddol, yn enwedig wrth i fwy o unigolion geisio cadw eu hannibyniaeth wrth fyw yn eu cartrefi eu hunain.  

Mae grŵp bychan o gleifion o Ben-y-bont ar Ogwr wedi bod yn gweithio gyda’u timau iechyd a gofal cymdeithasol lleol i dreialu dyfais feddyginiaeth a phecyn gofal cofleidiol cysylltiedig, sydd â'r nod o helpu pobl i gadw eu hannibyniaeth.  

Mae rheoli meddyginiaethau drwy ddulliau digidol yn gallu helpu pobl i lynu wrth eu trefn ar gyfer cymryd meddyginiaeth a lleihau gwastraff – gan gynyddu annibyniaeth defnyddwyr a chaniatáu iddynt aros yn eu cartrefi eu hunain yn hirach. Yn ogystal â larwm i atgoffa defnyddwyr pryd i gymryd eu meddyginiaeth, mae'r ddyfais hefyd yn anfon rhybuddion at aelodau o'r teulu neu at Ganolfan Derbyn Larwm Teleofal.  

Dywedodd Tom Sauter, Fferyllydd Arweiniol Clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:  

“Mae’r agwedd monitro o bell yn bwysig gan ei bod yn galluogi teuluoedd a gwasanaethau i roi rhagor o gymorth i unigolion ac osgoi iddynt orfod treulio amser yn yr ysbyty.” 

Hyfforddiant Realiti Rhithwir ar gyfer Cartrefi Gofal - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg  

Un Atgyfeiriad, Un Ymweliad: Mae Gofal Integredig Amserol ar gyfer Llyncu, Maeth a Rheoli Meddyginiaethau mewn Cartrefi Gofal wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Gwobr Gofal Amserol GIG Cymru.  

Un o’r problemau iechyd dybryd sy’n wynebu’r boblogaeth hŷn yw dysffagia’r oroffaryngeol, sef anhawster llyncu sy’n gallu arwain at ddiffyg maeth, heintiau, a hyd yn oed marwolaeth. Er mwyn cefnogi staff cartrefi gofal i gynnal asesiadau integredig o bell, datblygwyd rhaglen hyfforddi Realiti Rhithwir ar y cyd â Goggleminds.  

Mae'r rhaglen yn defnyddio senarios realistig sy’n trochi, i feithrin sgiliau a hyder, gan fabwysiadu model dysgu hybrid sy'n cyfuno cyfarwyddyd wyneb yn wyneb ag efelychiad realiti rhithwir. Mae'r hyfforddiant yn galluogi staff gofal i adnabod arwyddion cynnar dysffagia, ymateb yn effeithiol i argyfyngau, ac yn y pen draw, gwella ansawdd gofal cleifion. 

Dywedodd Sheiladen Aquino, Arweinydd Prosiect, Therapydd Iaith a Lleferydd Arweiniol Clinigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:  

“Rydym ni'n darparu cam hollbwysig tuag at gynnal model integredig o wasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol, drwy ddefnyddio technoleg realiti rhithwir, hyfforddi staff cartrefi gofal mewn asesiadau o bell ar gyfer llyncu, maeth a rheoli meddyginiaeth.” 

Llongyfarchiadau i'r ddau brosiect ar gyrraedd y rhestr fer. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn tynnu sylw at y gwaith rhyfeddol sy'n cael ei wneud bob dydd, yn ogystal â dangos y rôl hollbwysig rydym ni'n ei chwarae o ran sbarduno arloesedd ym maes gofal cymdeithasol. Llongyfarchiadau mawr i bawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol eleni. Edrychwch ar y rhestr lawn o'r prosiectau sydd ar y rhestr fer yma.  

Dywedodd Louise Baker, Arweinydd Prosiect, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: 

“Fel Arweinydd Prosiect, rwy'n falch o weld y prosiect Hyfforddiant Realiti Rhithwir ar gyfer Cartrefi Gofal a'r prosiect Cydymffurfio â Meddyginiaeth Ddigidol ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau GIG Cymru. Mae'r enwebiadau hyn yn brawf o'r hyn sy’n bosibl ac awydd i ddod â staff ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, diwydiant a phobl sydd â phrofiad uniongyrchol yng nghymuned Pen-y-bont ar Ogwr at ei gilydd a darparu ffyrdd newydd o weithio.  

Mae'r prosiect realiti rhithwir yn dangos sut gall technoleg sy’n trochi wneud hyfforddiant staff yn fwy diddorol a gwella canlyniadau dysgu. Mae'r prosiect Cydymffurfio â Meddyginiaeth yn sicrhau bod pobl yn aros yn ddiogel ac yn annibynnol gartref am gyn hired â phosibl, ac yn lleihau'r straen ar ofalwyr di-dâl. Mae'r ddau brosiect yn cael eu gyrru gan gydweithio ac angerdd i wella bywydau. Mae'n ysbrydoledig gweld yr effaith y gall arloesi ei chael ar gleifion, gofalwyr di-dâl, a thimau staff sy'n eu cefnogi, ac rwy'n ddiolchgar fy mod yn rhan o daith Tom a Sheiladen”.  

Bydd yr enillwyr yn cael eu datgelu yn y seremoni ar 18 Tachwedd 2025. Ewch i weld rhagor o wybodaeth am y gwobrau, ac enwebiadau 2025 yma.  

Partneriaid y prosiect Cydymffurfio â Meddyginiaeth: YOURmeds, Pivotell, Canolfan Ragoriaeth SBRI, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Llywodraeth Cymru. 

Partneriaid y prosiect realiti rhithwir: Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Goggleminds, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, Cymunedau Digidol Cymru.