Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Rydym ni’n falch iawn o rannu ein hail set o fideos astudiaethau achos arloesol, sy’n cynnwys y prosiectau gofal cymdeithasol arloesol YourMedsPainChek.

User with yourmeds device and painchek app in use

Fel rhan o’n cenhadaeth barhaus i feithrin arloesedd yn system iechyd a gofal cymdeithasol Cymru, mae’r prosiectau hyn yn dangos sut gall datrysiadau blaengar, a thechnoleg arloesol, fynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf dybryd yn y ddarpariaeth gofal heddiw, gyda’r potensial i fod o fudd i filoedd o unigolion ledled Cymru. 

YourMeds: Grymuso’r gwaith o reoli meddyginiaeth

Mae rheoli meddyginiaeth yn her gynyddol, yn enwedig wrth i fwy o unigolion geisio cadw eu hannibyniaeth wrth fyw yn eu cartrefi eu hunain. Gyda bron i ddwy filiwn o bobl dros 65 oed yn y DU yn cymryd saith neu fwy o feddyginiaethau bob wythnos, mae sicrhau ymlyniad yn hanfodol. Fodd bynnag, ni chymerir hyd at 50% o feddyginiaethau ar bresgripsiwn yn ôl y bwriad, gan arwain at gymhlethdodau iechyd a straen ychwanegol ar adnoddau iechyd a gofal cymdeithasol. 

Mae prosiect YourMeds yn cael ei werthuso ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyda chymorth Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru (Arweinydd y Prosiect, Louise Baker), gan gyflwyno dyfais ddigidol arloesol sy’n atgoffa defnyddwyr pryd i gymryd eu meddyginiaeth. Mae’r ddyfais hon nid yn unig yn cefnogi unigolion i ymlynu wrth eu meddyginiaethau’n gywir, ond gellir ei chysylltu hefyd â Chanolfan Derbyn Larwm Teleofal neu gylch gofal teulu, gan ddarparu cymorth rhagweithiol ac ataliol, lleihau’r risg o argyfyngau, a gwella lles cyffredinol.

Bydd canlyniadau’r prosiect hwn yn sail i’w botensial ar gyfer gweithredu’n ehangach ledled Cymru. 

PainChek: Gwella’r broses o reoli poen

I lawer o breswylwyr mewn cartrefi gofal, yn enwedig y rheini sydd â dementia neu anableddau dysgu, mae cyfathrebu poen yn her. Mae PainChek, adnodd asesu poen sy’n cael ei bweru gan ddeallusrwydd artiffisial, yn gwella gallu rhoddwyr gofal i gyrchu a rheoli poen yn gywir ymhlith preswylwyr nad ydynt yn gallu mynegi eu hanghysur ar lafar.

Mae cyflwyniad yr adnodd wedi arwain at asesiadau poen mwy rheolaidd a manwl gywir, gwell defnydd o leddfu poen, a llai o broblemau ymddygiad sy'n gysylltiedig â phoen heb ei reoli. 

Mae gwerthusiad o PainChek gan ein Harweinydd Prosiect, Chris Rolls, wedi datgelu manteision sylweddol i breswylwyr a darparwyr gofal. Er enghraifft, helpu gofalwyr i wneud penderfyniad mwy gwybodus ynghylch lleddfu poen, gan arwain at lai o feddyginiaethau angenrheidiol, a phrofiad cyffredinol gwell i breswylwyr.

Mae’r fideos hyn sy’n tynnu sylw at astudiaethau achos nid yn unig yn dangos y gwaith rhyfeddol sy’n cael ei wneud gan YourMeds a PainChek, ond maent hefyd yn dangos y rôl hollbwysig rydym ni’n ei chwarae o ran cefnogi arloesedd ym maes gofal cymdeithasol. Trwy nodi anghenion hanfodol a chysylltu darparwyr gofal â’r datrysiadau technolegol cywir, rydym ni’n helpu i wella bywydau, lleihau’r baich ar roddwyr gofal, a darparu gwasanaethau hanfodol yn fwy effeithiol. 

“Rydym ni wedi ymrwymo i sbarduno arloesedd sy’n cyflymu’r gwaith o ddarparu gofal cymdeithasol ledled Cymru. Mae prosiectau YourMeds a PainChek yn enghreifftiau gwych o sut gellir defnyddio technoleg i ddiwallu anghenion esblygol ein poblogaeth, gan alluogi pobl i fyw bywydau iachach a mwy annibynnol.” Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiectau hyn ar gael fan hyn, neu i ddysgu sut gallwn ni eich cefnogi chi a’ch datblygiadau arloesol, cyflwynwch ymholiad fan hyn.

Diolch yn arbennig i’r holl randdeiliaid sy’n ymwneud â’r ddau brosiect. 

YourMeds: Cwm Taf Morgannwg University Health Board, Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, Value-Based Health Care, YourMeds.

PainChek: Cartrefi gofal awdurdodau lleol ac eiddo preifat ledled Gwent, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent, PainChek.