Trydydd parti

Trwy Grantiau Keith James, mae cyfanswm o £1 miliwn ar gael i gynorthwyo pobl sy’n gweithio dros GIG Cymru i gyrchu cyfleoedd i ddysgu a datblygu’n lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Keith James Grants logo

Mae unrhyw un sy’n gweithio mewn rôl glinigol, meddygol neu weinyddol o fewn y GIG yng Nghymru sydd â chysylltiad uniongyrchol â gwasanaethau canser yn gymwys i wneud cais am Grant Keith James.

Mae’r cyllid ar gael i unigolion a grwpiau i gyrchu (1) DIGWYDDIADAU, ADDYSG A HYFFORDDIANT – gan feithrin sgiliau, gwybodaeth a chysylltiadau y gellir eu defnyddio’n uniongyrchol i wella gwasanaethau canser yng Nghymru a (2) YMWELIADAU – unrhyw le yn y byd, i ddysgu sgiliau, technegau a modelau cyflawni a allai fod yn fuddiol i gleifion a gwella gwasanaethau canser.

Am ganllawiau cyflawn ac i lawrlwytho’r ffurflen gais, ewch i: https://moondance-cancer.wales/keith-james-grants