Mae'r rhaglen Cyflymu yn cynnig cefnogaeth farchnata i fusnesau yng Nghymru.

A group of people around a table

Gall marchnata effeithiol godi proffil eich cwmni, eich cefnogi i gyrraedd mwy o gwsmeriaid, a helpu i feithrin partneriaethau newydd. 

Drwy’r rhaglen Cyflymu, mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru nawr yn cynnig cymorth cyfathrebu a marchnata penodol i fusnesau iechyd a gofal yng Nghymru.

Rydym yn barod i helpu gyda’r canlynol:

  • Adolygu a dadansoddi eich gweithgareddau marchnata a chyfathrebu
  • Cyngor ac arweiniad strategol
  • Dealltwriaeth o’r Gynulleidfa ac ymgysylltu â nhw
  • Negeseuon
  • Cyfryngau Cymdeithasol
  • Brandio a lleoli
  • Cynlluniau gweithredu ac argymhellion.

Drwy sesiynau datblygu un-i-un, bydd Cyflymu yn gweithio gyda chi i fireinio ac ehangu galluoedd cyfathrebu a marchnata eich busnes.

I ddarganfod mwy, e-bostiwch Alun.franks@lshubwales.com 

** Hyd at 12 awr o gefnogaeth i fusnesau sy'n gymwys **