I'r rhan fwyaf o bobl, mae realiti rhithwir yn gyfystyr â hapchwarae, ond mae ei botensial yn ymestyn ymhell i reoli materion gofal iechyd cymhleth, megis poen a phryder.
Mae Rescape Innovation, busnes newydd sy’n cynnig datrysiadau sy’n seiliedig ar realiti rhithwir ym maes gofal iechyd, wedi datblygu offer sy’n llawn addewid mewn nifer o wahanol senarios gofal iechyd - rheoli poen, gofal lliniarol, gofal dementia, pediatreg a hyd yn oed helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n dioddef o straen a gorweithio.
Cyn y gellir ei weithredu ar raddfa yn y lleoliadau hyn, fodd bynnag, rhaid i'r datrysiad fynd i'r afael â nifer o ffactorau pwysig, gan gynnwys diogelwch, defnyddioldeb, bod y dechnoleg yn hwylus i’w defnyddio, yn ogystal ag addasu ar gyfer amgylcheddau clinigol gwahanol. Dyma lle mae cydweithio ag ATiC (Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol) fel rhan o'r rhaglen Cyflymu a ariennir gan Ewrop mor bwysig i wireddu amcanion masnachol.
Profi ecosystem DR.VR
Mae ymchwil cynnar ATiC wedi canolbwyntio ar edrych sut mae DR.VR yn cael ei ddefnyddio mewn amgylcheddau gwahanol.
Yn ôl Dr Sean Jenkins, arweinydd ymchwil a datblygu ATiC, mae adborth ar fanteision y datrysiad wedi bod yn gadarnhaol iawn o ran sut y mae'n helpu cleifion. Er enghraifft, pan gaiff ei ddefnyddio gyda chleifion dementia sy'n aml yn ddryslyd ac yn ofidus, mae DR.VR wedi helpu'r unigolion hynny i ddeall ble maen nhw, beth sy'n digwydd ar yr adeg honno a hyd yn oed cael sgwrs gydag anwyliaid. Bydd cadarnhad o'r canfyddiadau hyn yn gofyn am fwy o dreialon clinigol, ac mae Rescape yn gweithio i ddatblygu'r treialon hyn.
Mae ymchwil hefyd yn cael ei wneud i wedl pa heriau a wynebir wrth ddefnyddio’r offer mewn gwahanol leoliadau gofal, megis gofal lliniarol o’i gymharu â’i ddefnydd mewn adran anaesthesioleg. Bydd y wybodaeth hon yn helpu Rescape i fynd i'r afael ag unrhyw angen posibl i ailgynllunio neu ychwanegu nodweddion penodol i helpu ei ddefnyddio.
Mae'r tîm yn gofyn cwestiynau am y mathau o gleifion sy'n defnyddio'r offer, y disgwyliadau a'r amcanion wrth ddefnyddio'r system, pa mor rhwydd a chyfforddus yw’r offer i’w ddefnyddio, hyd at holi am farn ynghylch y cloeon a'r bachau ar y blwch a sut mae defnyddwyr yn cario'r offer. Fel y mae Sean yn nodi, gall mân ystyriaethau ynghylch ei ddefnyddioldeb yn aml effeithio ar hyder defnyddwyr gydag offer drud felly gall mynd i'r afael â'r rheini, a gwneud mân newidiadau o bosibl, helpu i annog mwy o bobl i’w defnyddio.
"Mae ymchwilwyr dylunio’n dysgu llawer drwy'r ffordd y mae pobl yn cam-ddefnyddio cynhyrchion, gan fod hyn yn rhoi gwybodaeth am y math o amgylchedd a phwysau y maent yn delio â nhw a pham y gallent fod wedi torri corneli neu golli gwybodaeth," meddai Sean.
Y camau nesaf yn y daith ddatblygu
Bydd y canfyddiadau y mae ATiC yn eu gwneud yn ei ymchwil cychwynnol yn helpu i lywio'r cam nesaf yn y broses gyd-ddatblygu rhwng Rescape, ATiC ac Athro Microbioleg Fferyllol Prifysgol Caerdydd, Jean-Yves Maillard, sy'n cynghori ar halogiad microbaidd. Bydd y canfyddiadau hefyd yn helpu i benderfynu a oes angen addasu’r cyfarwyddiadau er mwyn eu gwneud yn haws eu deall a'r math o hyfforddiant y gallai fod ei angen i sicrhau bod DR.VR yn cael ei ddefnyddio’n llawn. Er enghraifft, mae ATiC yn defnyddio galluoedd olrhain llygaid yn ei labordy i brofi a yw defnyddwyr yn darllen y cyfarwyddiadau fel y bwriadwyd, tra bod technolegau arsylwi ymddygiadol yn caniatáu i ATiC asesu sawl gwaith y mae defnyddwyr yn gwyro oddi wrth y protocol, yn gwneud camgymeriadau neu'n hepgor camau. Unwaith y bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chasglu, gall ATiC wneud argymhellion, e.e. sut i newid cyfarwyddiadau, efallai gyda mwy o graffeg, i wella dealltwriaeth.
"Mae angen i ni wybod bod ein cynnyrch yn cael ei ddefnyddio'r ffordd gywir ac, os nad yw, ein bod yn deall pam ac yn sicrhau ein bod yn hyfforddi defnyddwyr sut i ddefnyddio’r DR.VR yn llawn," meddai Matt Wordley, Prif Weithredwr Rescape. "Wedi'r cyfan, does dim pwynt dylunio cynnyrch anhygoel os nad ydych chi'n dysgu pobl i'w ddefnyddio'n iawn.”
Realiti Rhithwir fel dyfais feddygol
Carreg filltir bwysig arall i Rescape yw cael cymeradwyaeth reoleiddiol i DR.VR fel dyfais feddygol. Mae rôl ATiC yn hynny o beth yn canolbwyntio ar brofion defnyddioldeb yn erbyn safon Prydain a deall yr holl risgiau - boed hynny o ran rheoli heintiau yng ngoleuni pandemig Covid-19 neu ddiffygion trydanol posibl a allai ddigwydd.
Er nad yw Rescape wedi cyflwyno DR.VR eto i'w gymeradwyo, mae'n gweithio'n agos gydag ATiC ac arbenigwyr rheoleiddio i sicrhau bod y cynnyrch yn cyd-fynd â'r gofynion. Ac mewn sawl ffordd, mae Rescape ac ATiC yn ysgrifennu’r rheolau ar gyfer Realiti Rhithwir ym maes gofal iechyd – a hynny bob amser yn seiliedig ar y dystiolaeth a'r trylwyredd sydd eu hangen i ddangos canlyniadau therapiwtig DR.VR fel therapi diogel ac effeithiol i leihau poen a phryder.
Am yr Arloeswyr:
Mae Dr Sean Jenkins yn Brif Ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac yn arwain y gweithgaredd ymchwil, datblygu ac arloesi yng Nghanolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) yn Abertawe. Mae ATiC yn rhan o'r rhaglen Cyflymu a ariennir gan Ewrop, sy’n brosiect cydweithredol rhwng tair o brifysgolion Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Mae'r rhaglen yn helpu arloeswyr iechyd a gwyddor bywyd yng Nghymru i droi eu syniadau'n ddatrysiadau. I ddysgu mwy, cysylltwch â Sean a'i gydweithwyr yn atic@uwtsd.ac.uk
Mae Matt Wordley yn Brif Weithredwr yn ogystal â bod yn aelod sylfaenol ac yn sylfaenydd Rescape Innovation. Mae Rescape yng Nghaerdydd yn gweithio i ddatblygu cynhyrchion rhithwir sy'n helpu cleifion i ddelio â phoen, adsefydlu, straen a phryder drwy dynnu sylw'r ymennydd. I ddysgu mwy, cysylltwch â Matt a'i gydweithwyr yn info@rescape.me