Denise Puckett, Pennaeth Ymgysylltu – Iechyd a Gofal

Innovation Network Meeting

I fod yn llwyddiannus ym maes arloesedd mae angen argyhoeddiad, dycnwch ac amgylchedd cynhalgar. Efallai eich bod chi’n cynrychioli bwrdd iechyd sy’n dymuno darparu gwasanaethau canolog i gleifion yn fwy effeithlon. Efallai eich bod chi’n entrepreneur sy’n ceisio cyflwyno syniad gofal iechyd newydd i’r farchnad, neu efallai eich bod chi’n weithiwr rheng flaen sy’n gorfod ymdrin â’r un broblem o hyd ac o ganlyniad yn cael eich rhwystro rhag darparu’r gwasanaeth neu ofal gorau posibl.

Beth bynnag yw eich rhan yn y gyfundrefn iechyd a gofal cymdeithasol, mae arloesi a’r awch i lwyddo yn hanfodol. Ond er mai’r rhinweddau hyn sy’n eich symbylu, nid yw’r llwybr arloesi byth yn rhwydd, felly mae cael rhwydwaith cynnal yn gaffaeliad mawr gan ei fod yn gwella’ch siawns o lwyddo. Partneriaeth yw’r allwedd i lwyddiant yn aml.

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi sefydlu Rhwydwaith Arloesedd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, a fydd yn fforwm ar gyfer rhannu syniadau, chwalu rhwystrau a hybu arloesedd.ovation championed.  

Anaml y mae arloesedd yn mynd rhagddo'n rhwydd

Fe gymerodd 15 mlynedd a 5,127 prototeip i James Dyson gael ei syniad gwreiddiol ar gyfer sugnydd llwch i’r farchnad ym 1993. “Mae pawb yn cael ei fwrw’n ôl, does neb yn codi i’r brig yn ddirwystr,” meddai Dyson. Mae arloesi’n broses sy’n llawn rhwystredigaethau, gyda llawer cam yn ôl. Fel y dywedodd Thomas Edison: “Dydw i ddim wedi methu. Rydw i ond wedi darganfod 10,000 o ffyrdd nad oeddynt yn gweithio.” Gan fod y ddarpariaeth gofal iechyd yng Nghymru mor gymhleth, mae sawl her yn codi hyd yn oed cyn i gysyniad arloesol gael ei ariannu a’i brofi. Y cam cyntaf yw rhoi cyfle i’r gweithlu ddweud yn agored ac yn ddiogel nad yw rhywbeth yn gweithio, neu y gellid gwneud rhywbeth yn well. Bydd caniatáu i staff herio’r system mewn amgylchedd diogel yn eu hannog i awgrymu syniadau a thrafod y problemau a wynebant. Gall y broses o sicrhau bod arloesedd yn cael ei fabwysiadu a’i ledaenu ym mhob rhan o’r system fod yn un araf, a gall ofyn i arloeswyr chwim gyfuno uchelgais ag amynedd. Hefyd gall fod angen meithrin mwy o ymddiriedaeth ac awydd i gyflymu newid yn y gyfundrefn iechyd a gofal.

Hyrwyddwyr Arloesedd Unedig

Mae arloesedd yn thema o bwys o fewn ‘Cymru Iachach’ – cynllun hirdymor Cymru ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Roeddem yn falch iawn pan lansiwyd ein rhwydwaith Arloesedd gan Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn y Gwanwyn. Meddai Vaughan: “Mae ymgysylltu a chyd-gynhyrchu yn agweddau pwysig ar y cynllun ‘Cymru Iachach’. Mae o’r pwys mwyaf bod ein holl raglenni arloesedd yn cael eu hategu gan ymgysylltu a phartneriaeth, a dyna pam mae’n bleser gen i lansio rhwydwaith iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru sy’n cael ei arwain gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Bydd y rhwydwaith hwn yn dwyn ynghyd hyrwyddwyr o Gymru gyfan a fydd yn canfod, rhannu a hybu arfer da ym maes arloesedd iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn lledaenu gweithgarwch arloesol yn fwy eang.”

Pwrpas y rhwydwaith arloesedd yw hwyluso partneriaethau arloesol rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, drwy feithrin yr amodau ac amgylchiadau sy’n hanfodol ar gyfer arloesi. Gwelwn y gyfundrefn iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael ei gwthio i’r pen yn aml – yn gweithio’n galetach ond nid yn glyfrach. Mae’n cymryd amser i ddatblygu a gweithredu arloesedd, pa un a yw ar ffurf dulliau dyfeisgar neu dechnolegau newydd. Mae darparu’r amser hwn yn bwysig, a dyna’r hyn y mae ein rhwydwaith yn ei wneud. Mae’n sicrhau bod pobl yn cael cyfle i gyfarfod, trafod a chwalu rhwystrau er mwyn creu a mabwysiadu datrysiadau a fydd yn gweddnewid y drefn iechyd a gofal.

eates the innovation space required. It protects the time and attention needed to meet, discuss and break down barriers to create and adopt solutions that transform health and care in the future.

Awydd am arloesedd

Daeth amrywiaeth eang o gynrychiolwyr o bob rhan o’r sector iechyd a gofal yng Nghymru i lansiad y rhwydwaith i ystyried arloesedd, y buddion sy’n deillio ohono, a’r diwylliant sy’n angenrheidiol i sicrhau ei fod yn ffynnu. Wrth i’r digwyddiad lansio fynd yn ei flaen, daeth yn amlwg bod awydd enfawr am arloesedd ar draws y gyfundrefn iechyd a gofal Gymreig, o ganlyniad i’r angen i ddarparu gofal i gleifion mewn amgylchedd ariannol cynyddol dynn. Mae datblygiadau technolegol a digidol cyflym yr oes eisoes wedi arwain at reolaeth data uwch, rheolaeth poen realiti rhithwir, a hyblygrwydd yn hyfforddiant nyrsys. Mae hefyd yn glir bod arloesedd effeithiol heddiw ac yn y dyfodol yn gofyn am ddatblygu partneriaethau rhwng gwahanol sefydliadau er mwyn sicrhau ymagwedd lawer mwy cyfannol.

Ymunwch â’n Rhwydwaith

Lluniwyd ein rhwydwaith arloesedd newydd i’w gwneud hi’n haws dod o hyd i’r cymorth angenrheidiol ac i helpu hyrwyddwyr i rannu llwyddiannau a dulliau er mwyn symbylu cyflwyno modelau gofal gwell. Nod ein rhwydwaith yw meithrin y gallu i ledaenu arfer da ar hyd a lled Cymru, fel bod syniadau a dulliau arloesol llwyddiannus yn cael eu mabwysiadu’n gyflym. Mae’n cynnig fforwm ar gyfer gwyntyllu syniadau arloesol newydd a all ddatrys y problemau sy’n wynebu’r sector iechyd a gofal ar draws Cymru.

Yr aelodau yw calon y rhwydwaith. Mae ein Hyrwyddwyr Arloesedd yn cynnwys Prif Weithredwyr GIG Cymru, aelodau byrddau iechyd, ac arbenigwyr blaenllaw o’r byd academaidd, y Llywodraeth a diwydiant. Mae ein grŵp o Arweinwyr Gweithredol yn cynnwys Cyfarwyddwyr Gofal, pobl sy’n gyfrifol am arloesedd yn y byrddau iechyd ac ym maes gofal cymdeithasol, staff uwch o’r byd academaidd, sefydliadau sector cyhoeddus a thrydydd sector, Llywodraeth Cymru a diwydiant. Bydd ein grŵp Ymarferwyr yn cynnwys staff GIG a Gofal Cymdeithasol sy’n arloesi yn eu meysydd eu hunain, Esiamplau Arloesedd Bevan ac arloeswyr o ddiwydiant ac academia.