Ymunwch â ni ar 16 Mehefin i drafod ac ystyried sut gallwn ni flaenoriaethu arloesi ym maes meddygaeth fanwl yng Nghymru er mwyn trawsnewid.

Gwyddonydd

Mae’n bleser gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru lansio cyfres o heriau sy’n nodi blaenoriaethau ym maes meddygaeth fanwl y mae angen rhoi sylw iddynt yng Nghymru dros y flwyddyn nesaf. Mae ein digwyddiad nesaf yn tynnu sylw at hyn, gan ystyried sut gallwn ni ddod o hyd i atebion a chyfleoedd posibl ar y daith tuag at fabwysiadu meddygaeth fanwl ar raddfa fawr gan ein gwasanaethau gofal iechyd.

Mae meddygaeth fanwl yn defnyddio gwybodaeth enetig i lywio triniaethau uwch sydd wedi’u targedu ac wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer pob claf. Mae posibilrwydd iddo drawsnewid ein gwasanaethau gofal iechyd drwy driniaethau creadigol, mwy effeithiol ar gyfer clefydau fel canser. Fodd bynnag, mae nifer o heriau’n gysylltiedig â’i gyflyno ar raddfa fawr mewn lleoliadau gofal iechyd.

Mae’r digwyddiad ar-lein yn gyfle i glywed gan Dr Siân Morgan (Gwasanaeth Genoms Meddygol Cymru Gyfan), Dr Tom Wilkinson (Prifysgol Abertawe) a Dr Jonathan Morgan (Medicines Discovery Catapult). Bydd ein siaradwyr yn trafod sut mae Cymru’n arloesi meddygaeth fanwl mewn sawl lleoliad gwahanol, a sut gallwn ni ddechrau goresgyn heriau sy’n gysylltiedig â’i fabwysiadu’n ehangach.

Dywedodd Gareth Healey, Arweinydd y Rhaglen (Meddygaeth Fanwl):

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru’n falch iawn o groesawu arweinwyr sy’n gweithio ar draws meddygaeth fanwl i archwilio sut mae cyflymu’r broses o’i rhoi ar waith yn ein gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru. Gall meddygaeth fanwl ein helpu i ganfod a gwneud diagnosis am glefydau’n gynt ac yn fwy effeithiol, ac mae ganddi rôl bwysig i’w chwarae o ran diogelu ein systemau gofal iechyd yn y dyfodol.”

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ac i gofrestru ar ei gyfer, ewch i’n tudalen Eventbrite.