Ar 24 Medi, croesawodd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru arbenigwyr o ar draws y byd academaidd, y trydydd sector, diwydiant, iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer ein hail ddigwyddiad HWB SPARC.
Disgwylir i nifer y bobl sy'n byw yng Nghymru dros 50 gynyddu i dros 1 miliwn yn ystod yr 20 mlynedd nesaf.
Wrth i boblogaeth Cymru dyfu'n hŷn, mae'r pwysau ar ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cynyddu.
Yn y digwyddiad HWB SPARC hwn, buom yn edrych ar y cysyniad o sut y gall ymarfer corff a gweithgarwch corfforol hybu heneiddio’n iach. Roedd y trafodaethau'n ymwneud ag atebion posibl a sut y gallwn ddatblygu arloesedd yn y maes hwn.
Ymarfer corff, gweithgarwch corfforol a heneiddio'n iach
Ymunodd Dr Joanne Hudson, Athro Cysylltiol, Gwyddoniaeth Chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe a dau fyfyriwr PhD, Rachel Knight a Taylor Waters, â ni yn y digwyddiad.
Roeddent yn cyflwyno'r heriau sy'n codi o ran hybu gweithgarwch corfforol gydag oedolion hŷn; sut a pham y gallwn ni eu goresgyn.
Roedd themâu cyffredinol y dydd yn cynnwys:
• Hyrwyddo heneiddio'n iach drwy weithgarwch corfforol
• Gweithgareddau a dysgu sy'n pontio'r cenedlaethau
• Defnyddio technoleg bresennol i gynyddu gweithgarwch corfforol
Gweithiodd y grwpiau o gynrychiolwyr ar y diwrnod gyda'i gilydd i archwilio syniadau, atebion a chyfleoedd ariannu i annog heneiddio'n iach yng Nghymru. Mae hwn yn faes gwaith yr ydym wedi ymrwymo i'w gefnogi a'i gyflymu er mwyn gwella canlyniadau iechyd i bobl Cymru.