Ar ôl cyflwyno rhaglen hyfforddi Realiti Rhithwir (VR) ar gyfer staff gofal cymdeithasol ym
Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Mawrth 2025, mae’r prosiect yn cael effaith sylweddol, gan wella cymhwysedd staff.

Mae rhwng 50 a 75% o breswylwyr cartrefi nyrsio yn dioddef o ddysffagia (trafferth llyncu), gydag 1 ym mhob 10 person dros 65 oed yn cymryd mwy nag 8 meddyginiaeth y dydd, ac 1 ym mhob 4 person dros 85 oed yn cymryd mwy nag 8 meddyginiaeth y dydd.
Mae’r hyfforddiant realiti rhithwir trochol, a ddatblygwyd gan Goggleminds, yn rhoi’r sgiliau a’r hyder i staff gofal cymdeithasol ymdrin ag argyfyngau sy’n ymwneud â dysffagia. Gall dysffagia ddigwydd oherwydd bwyd, hylif, poer neu feddyginiaeth, a gall gael llawer o effeithiau ar gleifion. Gall hyn gynnwys anhawster cymryd meddyginiaeth /colli meddyginiaeth, dirywiad o ran iechyd corfforol neu feddyliol, ofn pesychu neu dagu, llai o fwynhad wrth fwyta ac yfed, mynd i'r ysbyty, a risg uwch o gamfaethiad.
Mae Jodie Miller (Ymarferydd Cyswllt Therapi Iaith a Lleferydd), Lynne Burgess (Ymarferydd Therapi Generig Cynorthwyol), Rhiannon Edwards a Thomas Bush (Ymarferwyr Deietegol Cynorthwyol) wedi cyflwyno modiwl hyfforddi realiti rhithwir i dimau gofal cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy’n darparu modiwl hyfforddi ymarferol a throchol sy'n efelychu ymgynghoriadau asesu llwnc go iawn. Mae caniatáu i staff ymgysylltu a rhyngweithio â chleifion o fewn amgylchedd rhithwir realistig, yn gwella diogelwch a gofal cleifion.
Dywedodd Jodie Miller, Ymarferydd Cyswllt Therapi Iaith a Lleferydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:
“Mae cynnwys sesiynau damcaniaethol ac ymarferol wedi arwain at adborth positif a chyfle i ddefnyddio sefyllfaoedd o fywyd go iawn. Mae'r efelychydd realiti rhithwir wedi galluogi staff i ddefnyddio’r hyn a ddysgon nhw yn y sesiynau ym mywyd go iawn, ac mae wedi bod yn ffactor allweddol o ran cynyddu ymgysylltiad a dealltwriaeth ymarferol.”
Dywedodd aelod o staff a gymerodd ran yn yr hyfforddiant:
“Pan wnes i wisgo’r penset Goggleminds, rhoddodd gyfle i fi ddeall yr hyn rydyn ni wedi bod yn ei drafod [yn yr hyfforddiant], cyfuno'r damcaniaethol a'r ymarferol, a rhoddodd ddarlun cliriach i fi o ran sut gallai preswyliwr deimlo a beth i gadw llygad arno.”
“Mae'n creu lle diogel. Does dim rhaid i chi boeni cymaint. Rydych chi'n gwybod ei fod yn rhithwir, rydych chi'n gwybod y gallwch chi wneud camgymeriadau a gallwch chi ddysgu oddi wrthyn nhw heb niweidio unrhyw un. Pan maen nhw [y preswylydd rhithwir] yn cymryd lefelau hylif gwahanol, gallwch chi weld o'r delweddau a'r sain wrth iddo fynd i lawr. Felly, rydych chi'n gwybod a yw'n mynd yn iawn, neu a ydyn nhw'n cael anhawster llyncu.”
“Mae eistedd mewn hyfforddiant am 3-4 awr yn gwrando ar rywun, mae pawb yn diflasu ar hynny, felly mae hyn yn wirioneddol ysgogol.”
Nid yn unig y defnyddir hyfforddiant realiti rhithwir mewn hyfforddiant cartrefi gofal, mae hefyd yn cael ei ehangu i hyfforddi gofalwyr cymunedol ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn ddiweddar, fe wnaeth hyfforddwyr fel Jodie integreiddio'r efelychiad realiti rhithwir i sesiwn hyfforddi ddiweddar ymhlith staff Gofal Cymunedol Uwch (ECC). Roedd ychwanegu hyfforddiant ECC traddodiadol gyda thasgau ymarferol, rhyngweithiol fel tewhau diodydd a dewis deiet sy’n addas o ran trwch, yn caniatáu i staff ymarfer ac i weld hyn gyda chlaf realistig drwy'r penset realiti rhithwir. Mae'r cyfuniad hwn o ddysgu ymarferol a rhithwir yn apelio’n eang, gyda thimau o bob cwr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn awyddus i gymryd rhan.
Mae ymwybyddiaeth a chlywed cydweithwyr yn sôn am yr hyfforddiant wedi galluogi i’r hyfforddiant gael ei gyflwyno'r i staff cefnogol eraill yn y gymuned. Mae staff yn chwilio'n frwd am yr hyfforddiant, gyda cheisiadau'n aml yn cael eu sbarduno gan adborth positif wrth gydweithwyr. Mae'r fenter realiti rhithwir (a dargedwyd yn wreiddiol ar gyfer staff nyrsio, cynorthwywyr nyrsio, ac uwch staff cartrefi gofal) yn tynnu sylw at leisiau staff, yn defnyddio sefyllfaoedd o’r byd go iawn, ac yn ehangu ymhell y tu hwnt i'w gwmpas gwreiddiol, gan ddangos effaith sylweddol ar ymgysylltiad staff, hyder, ac yn y pen draw, gofal cleifion.
Dywedodd Louise Baker, Arweinydd Prosiect, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Mae brwdfrydedd y timau gofal cymdeithasol yn sylweddol. Wrth i bobl sôn am y prosiect, mae’r rhaglen yn ehangu, ac rydyn ni bellach yn ei chyflwyno i staff cefnogol eraill yn y gymuned. Nid yw cynnig yr hyfforddiant hwn yn ehangach yn fater o fodloni gofynion cymhwysedd yn unig, mae'n ymwneud â meithrin ymwybyddiaeth a gallu ar draws timau. Mae gweld y brwdfrydedd a'r momentwm hwn mewn dim ond tri i bedwar mis ers ei gyflwyno yn sylweddol i'r prosiect.”
Mae'r rhaglen hyfforddi realiti rhithwir yn dangos effaith sylweddol ar ymgysylltiad staff, hyder a gofal cleifion, gan dynnu sylw at ei gwerth a'i photensial ar gyfer ei gweithredu'n ehangach.
Darllenwch fwy am y rhaglen hyfforddi realiti rhithwir fan hyn.