Trydydd parti

Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canlyniadau ei adroddiad mabwysiadu diweddaraf, sy'n dangos bod ymwybyddiaeth o'i ganllawiau yn uchel ar draws Cymru.

Shot of cardiff bay

Mae’r sefydliad, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i letya gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, yn asesu technolegau iechyd a gofal anfeddygol, ac yn cyhoeddi canllawiau cenedlaethol ar eu defnydd yng Nghymru. 

Mae’n cynnal archwiliad mabwysiadu yn flynyddol, i ganfod a yw argymhellion canllawiau HTW wedi cael eu mabwysiadu gan fyrddau iechyd yng Nghymru.

Canolbwyntiodd archwiliad eleni ar 11 canllaw HTW a thri chanllaw Gwerthuso Technolegau Meddygol (MTEP) NICE. Mae canfyddiadau allweddol o archwiliad eleni yn cynnwys y canlynol: 

  • Mae ymatebion gan sefydliadau lle'r oedd y canllawiau'n berthnasol, yn dangos bod ymwybyddiaeth uchel o'r canllawiau (79%), bod yr argymhellion yn y canllawiau yn eglur (96%), a bod y canllawiau yn cael effaith yn y rhan fwyaf o achosion (72%).  Mae'r ffigurau hyn yn gyson ag archwiliad y llynedd, neu'n welliant arno.
  • Er y nodwyd bod y canllawiau’n eglur iawn, roedd rhai achosion lle nad oedd sefydliadau’n deall cylch gorchwyl canllawiau HTW yn llawn. Cafwyd sylwadau ynghylch y diffyg gwybodaeth ynghylch o ble y byddai cyllid ac adnoddau ychwanegol yn dod, a chwestiynau ynghylch gweithredu’r dechnoleg, sydd ddim o fewn cylch gorchwyl canllawiau HTW.
  • Yn gyffredinol, glynwyd at ganllawiau HTW sy'n argymell mabwysiadu technoleg fel mater o drefn,  er bod rhai enghreifftiau lle nad oedd sefydliadau wedi cadw at yr argymhelliad, neu'n ansicr a fyddent yn gwneud hynny.
  • Ar gyfer canllawiau HTW sy’n cefnogi mabwysiadu technolegau’n “rhannol” fel mater o drefn, yn gyffredinol, roedd sefydliadau naill ai’n teimlo nad oedd y canllawiau’n ddigonol i newid polisi comisiynu neu arfer clinigol, neu roeddent yn ansicr.
  • Roedd tri chanllaw NICE a archwiliwyd yn argymell defnyddio technoleg. Roedd effaith y tri chanllaw ar wneud penderfyniadau yn amrywio, o ddim effaith i effaith fawr.

I ddarganfod mwy a darllen adroddiad Archwiliad Mabwysiadu HTW 2023/24 yn llawn, cliciwch yma.