Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2023/24.
Yn ystod 2023/24, cyhoeddwyd Technoleg Iechyd Cymru 11 darn newydd o ganllawiau cenedlaethol, ar bynciau yn amrywio o lensys cyffwrdd i reoli myopia, i ddiffibrilwyr cardiaidd y gellir eu gwisgo. Roedd hefyd yn cynnwys dau ddarn o ganllaw gofal cymdeithasol hefyd, oedd yn trafod Rhaglenni Dwys i Gadw Teuluoedd Gyda’i Gilydd ac Ymyriadau drwy Adborth Fideo.
Drwy gydol y cyfnod hwn, mae'r sefydliad wedi canolbwyntio ei ymdrechion ar gefnogi'r gwaith o gyflawni chwe blaenoriaeth iechyd a gofal gweinidogol Llywodraeth Cymru.
Yn y cyfamser, mae Technoleg Iechyd Cymru wedi parhau â’i waith fel partner cydweithredu Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac wedi ymgysylltu â phartneriaid ar draws y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys fel partner i’r rhaglen Llwybr Mynediad at Ddyfeisiau Arloesol.