Trydydd parti

Mae Technoleg Iechyd Cymru wedi cyhoeddi canllaw newydd ar ddefnyddio toddiannau cloi cathetrau anfiotig, gwrthficrobaidd a gwrthgeulol ar gyfer atal cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â chathetrau. 

A medical expert administering an IV

Mae toddiannau cloi cathetrau yn doddiannau hylif, sy'n cynnwys cynhwysion sydd yn gallu atal bacteria rhag cronni mewn cathetrau a allai achosi heintiau llif gwaed sy'n gysylltiedig â chathetrau.

Mae toddiannau cloi cathetrau anfiotig, gwrthficrobaidd a gwrthgeulol yn defnyddio cyfuniad o gynhwysion sydd ddim yn wrthfiotig, ond sy'n helpu i atal microbau rhag tyfu a phibellau gwaed i geulo.

Yn ôl y canllaw, mae'r dystiolaeth yn cefnogi defnyddio toddiannau cloi cathetrau yn rhannol.

Darllen y canllaw'n llawn.