Mae Technoleg Iechyd Cymru yn falch o gyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2024-25.

Yn ystod 2024-25, ystyriodd Technoleg Iechyd Cymru 58 o atgyfeiriadau pwnc newydd a chyhoeddodd 8 canllaw Technoleg Iechyd Cymru newydd, yn ogystal â 54 o Adroddiadau Archwilio Pwnc.
Roedd ei ganllawiau cenedlaethol yn cwmpasu pynciau yn amrywio o offer digidol ar gyfer rheoli diabetes i’r prawf ffibrosis yr afu/iau uwch ac yn cynnwys technolegau AI arloesol megis endosgopi â chymorth AI ar gyfer canser gastroberfeddol.
Cafodd archwiliad mabwysiadu Technoleg Iechyd Cymru diweddaraf Technoleg Iechyd Cymru y cyfraddau ymateb gorau hyd yma a ddangosodd fod lefel uchel o ymwybyddiaeth o ganllawiau Technoleg Iechyd Cymru o fewn GIG Cymru a bod ei ganllawiau’n cael effaith sylweddol ar wneud penderfyniadau.
Drwy gydol 2024-25, cydweithiodd Technoleg Iechyd Cymru â phartneriaid ledled y DU i helpu i ysgogi datblygiad technolegau iechyd arloesol. Roedd hyn yn cynnwys gweithio mewn cydweithrediad â phartneriaid clinigol i ddatblygu canllawiau ar gyfer arfarnu technolegau AI.
Sefydlodd bartneriaeth newydd gyda’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) a pharhaodd â’i waith fel Partner Cydweithredol i Ganolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Hoffai Technoleg Iechyd Cymru fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’w randdeiliaid am eu cefnogaeth barhaus i’w waith.