Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) yn gweithio gyda phartneriaid ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i gefnogi'r ymateb i bandemig Covid-19. Mae’r adroddiad hwn wedi cael ei lunio i gynorthwyo Llywodraeth Cymru ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru yn eu hymateb i’r pandemig.
Mae adroddiad HTW yn darparu adolygiad cyflym o'r dystiolaeth a gyhoeddwyd ar effeithiolrwydd profion feirysau a gwrthgyrff i brofi diagnosis o COVID-19. Mae'n seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf a oedd ar gael ar adeg ei chyhoeddi ond bydd yn cael ei diweddaru'n aml.
Nod yr adroddiad hwn yw nodi a chrynhoi tystiolaeth sy'n mynd i'r afael â'r cwestiynau canlynol:
- Beth yw effeithiolrwydd clinigol a/neu effaith economaidd profion sy'n canfod presenoldeb y firws SARS-CoV-2 er mwyn llywio diagnosis COVID-19?
- Beth yw effeithiolrwydd clinigol a/neu effaith economaidd profion sy'n canfod presenoldeb gwrthgyrff i'r firws SARS-CoV-2 er mwyn llywio diagnosis o COVID-19?
Nod adroddiadau arfarnu tystiolaeth HTW yw yw nodi'r dystiolaeth glinigol ac economaidd orau a gyhoeddwyd ar dechnolegau iechyd. Mae ymchwilwyr yn arfarnu ac yn crynhoi'r dystiolaeth hon yn feirniadol.
Bydd chwiliadau llenyddiaeth wedi'u diweddaru ar gyfer yr adroddiad hwn yn cael eu perfformio'n rheolaidd a bydd unrhyw dystiolaeth newydd sy'n dylanwadu ar ganfyddiadau yn cael ei chynnwys mewn adroddiad wedi'i ddiweddaru.
Ewch i wefan Technoleg Iechyd Cymru am yr adroddiad diweddaraf.