Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Rydyn ni wedi ffurfio partneriaeth â The Telegraph a healthawareness.co.uk fel rhan o’u hymgyrch dyfodol gofal iechyd.
Mae cyfraddau canser yn codi, ac mae adnoddau gofal iechyd yn cael eu hymestyn fwyfwy. Mae Cymru ar flaen y gad o ran defnyddio deallusrwydd artiffisial a data mawr i wella’r gwaith o ganfod a chael diagnosis o ganser yn gynnar mewn meysydd fel radioleg, patholeg a genomeg.
Dywedodd Thomas Burden, Dadansoddwr y Farchnad Gofal Iechyd, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:
“Wrth i Gymru barhau i drawsnewid i fod yn ddigidol, mae tystiolaeth gref yn dod i’r amlwg o sut gall technoleg arloesol leddfu pwysau systemau gofal iechyd, lleihau costau ac, yn bwysicaf oll, gwella gofal a chanlyniadau i gleifion.”