Mae’n bleser gan EIDC gefnogi cynhadledd MediWales Connects sydd ar y gweill. Cynhelir y digwyddiad ar-lein rhwng 29 Mawrth a 1 Ebrill 2021, a bydd yn dod â chydweithwyr y GIG o bob cwr o Gymru, cwmnïau lleol a’r sector diwydiant ehangach at ei gilydd i edrych ar yr arferion gorau ar gyfer arloesi clinigol.   

MediWales Connects NHS Collaborative Conference

Mae EIDC yn gweithio mewn partneriaeth â MediWales ar gyfer y ‘Diwrnod Digidol’ yn y rhaglen a gynhelir ar 1 Ebrill, a fydd yn edrych ar bynciau pwysig sy’n ymwneud â gofal iechyd digidol yng Nghymru. Mae’r sesiynau hyn wedi cael eu cyd-drefnu gan MediWales a’n Pennaeth Digidol a Deallusrwydd Artiffisial, Helen Northmore. 

Beth allwch chi ei ddisgwyl gan Ddiwrnod Digidol MediWales Connects... 

Mae rhaglen y Diwrnod Digidol yn rhoi cyfle gwerthfawr i glywed gan y rheini sy’n gweithio ar draws gofal iechyd digidol yng Nghymru. Mae arweinwyr barn allweddol o’r llywodraeth, y diwydiant a gofal iechyd digidol i gyd yn rhoi cipolwg beirniadol ar y tirlun presennol, ei heriau a’i gyfleoedd.   

Dan gadeiryddiaeth Helen Northmore, mae’r amserlen yn cynnwys: 

Y Camau Nesaf ar gyfer Iechyd a Gofal Digidol  

Bydd Ifan Evans (Cyfarwyddwr Technoleg, Digidol a Thrawsnewid yn Llywodraeth Cymru) yn cynnig persbectif mewnol ar strategaeth ddigidol Llywodraeth Cymru, ynghyd â’r gwersi a ddysgwyd o bandemig Covid-19. 

Covid-19 - Sbarduno Trawsnewid Digidol 

Sesiwn banel, a fydd yn cynnwys profiad cwmnïau sydd wedi cefnogi’r GIG yn ystod yr ymateb i Covid-19 drwy roi technoleg newydd ar waith. Byddant yn cyflwyno eu dealltwriaeth o gyflymu’r broses o drawsnewid gofal iechyd yn ddigidol, gyda thrafodaeth ynglŷn â sut y gallwn fanteisio i’r eithaf ar hyn. Bydd Concentric Health, Connect Health, Atparito a MySurgery i gyd yn rhannu eu profiadau dros y 12 mis diwethaf. 

Adnodd Data Cenedlaethol 

Bydd Paul Howells (Arweinydd Digidol Rhaglenni a Strategaeth – Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru) yn arwain sesiwn ar y prosiect trawsnewid digidol blaenllaw hwn, sy’n edrych ar y cynnydd o ran sut bydd data’n cael eu defnyddio mewn gofal iechyd yng Nghymru yn y dyfodol.  

Dywedodd Helen Northmore, Pennaeth Digidol a Deallusrwydd Artiffisial:

“Mae MediWales Connects Online yn uchafbwynt yn y calendr fel cyfle i ddangos y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae EIDC yn falch o gefnogi MediWales ar gyfer y Diwrnod Digidol yn y digwyddiad, lle rydym yn edrych ymlaen at glywed gan amrywiaeth wych o arweinwyr gweledigaethol blaenllaw.” 

Dywedodd Gwyn Tudor, Prif Swyddog Gweithredol MediWales:

"Mae trawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru yn ddigidol wedi bod yn bwysicach nag erioed yn ystod y pandemig presennol, a bydd yn hanfodol i ddatblygu gwasanaethau wrth i ni edrych y tu hwnt i’r heriau presennol. Mae’r digwyddiad hwn yn brawf o’r cydweithio sy'n digwydd ar draws llywodraeth, gofal iechyd a’r diwydiant yng Nghymru.” 

Sut mae cofrestru! 

Mae MediWales Connects Online yn rhad ac am ddim i holl gydweithwyr y GIG ac aelodau MediWales ei fynychu bob dydd. Gallwch fynd i wefan MediWales (Saesneg yn unig) i gael rhagor o wybodaeth am y Diwrnod Digidol a chofrestru i fod yn bresennol.