Mae Universal Music Group a Rescape Innovation yn cynnal astudiaeth gydweithredol i dreialu triniaeth arloesol newydd ar gyfer gorbryder a chyflyrau iechyd meddwl eraill, sy’n defnyddio cerddoriaeth a realiti rhithwir.
Cyhoeddodd Universal Music Group (UMG), cwmni rhyngwladol blaenllaw ym maes adloniant cerddorol, a Rescape Innovation, cwmni Realiti Rhithwir (VR) o Gaerdydd, eu bod yn cynnal astudiaeth gydweithredol i dreialu triniaeth arloesol newydd ar gyfer gorbryder a chyflyrau iechyd meddwl eraill, sy’n defnyddio cerddoriaeth a realiti rhithwir.
- Mae’r modiwl realiti rhithwir ‘VR-Melody’ yn integreiddio cerddoriaeth bersonol, golygfeydd gosod ac ymarferion gwrando gweithredol i drin gorbryder a chyflyrau iechyd meddwl eraill.
- Mae astudiaeth brawf yn cael ei chynnal gyda hyd at 50 o gyfranogwyr, a fydd yn gallu defnyddio modiwl realiti rhithwir personol gartref am 10-14 diwrnod er mwyn canfod manteision y driniaeth.
- Dywedir bod gorbryder yn effeithio ar tua 60% o boblogaeth y DU. Mae Llywodraeth y DU yn amcangyfrif bod iechyd meddwl yn costio £105.2bn i’r economi ehangach, a hynny yn Lloegr yn unig. Mae traean o bobl ifanc yn eu harddegau yn dweud eu bod wedi cael cyffuriau gwrth-iselder ar bresgripsiwn, ac mae’r gyfran honno’n codi i 43% ymysg pobl ifanc 19–21 oed.
Modiwl realiti rhithwir yw 'VR-Melody'. Mae wedi cael ei greu gan dîm amlddisgyblaethol dan arweiniad Rescape Innovation ac UMG, gyda’r cwmni deallusrwydd artiffisial moesegol Bria.ai, a Chanolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd. Gan gyfuno cerddoriaeth, realiti rhithwir personol (fel golygfeydd gosod) ac ymarferion gwrando gweithredol, nod y driniaeth yw lleihau symptomau gorbryder a meithrin gwytnwch.
Mae astudiaeth brawf yn cael ei chynnal gyda hyd at 50 o gyfranogwyr a fydd yn gallu defnyddio VR-Melody gartref, drwy benset realiti rhithwir, am 10-14 diwrnod. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn sesiynau adborth rheolaidd er mwyn casglu data ansoddol a meintiol, gan nodi sut y caiff y modiwl ei ddefnyddio a beth yw manteision y driniaeth. Mae’r cyfranogwyr yn cynnwys Hafod, mudiad nid-er-elw, ac aelodau o’r cyhoedd.
Mae llawer o ymchwil wedi’i wneud i’r pŵer sydd gan gerddoriaeth i wella pobl. Mae DR.VR™, datrysiad technoleg Rescape Innovation, eisoes wedi helpu cleifion mewn dros 60 o ysbytai ar hyd a lled y DU – o wardiau pediatrig i unedau gofal dwys.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae UMG wedi arwain y diwydiant o ran edrych ar gyfleoedd creadigol a masnachol i alluogi cerddoriaeth i chwarae mwy fyth o ran mewn iechyd a llesiant, gan drwyddedu ei gatalog o gerddoriaeth i dros 40 o gwmnïau sy’n canolbwyntio ar feysydd fel ffitrwydd, llesiant meddyliol ac ymlacio. Mae UMG hefyd wedi gweithio gyda phartneriaid i alluogi cerddoriaeth i gael ei defnyddio ochr yn ochr â'r triniaethau sy’n bodoli’n barod ar gyfer amrywiaeth eang o gyflyrau meddygol cronig a difrifol – gan gynnwys adfer ar ôl anaf trawmatig i’r ymennydd a Strôc, clefyd Alzheimer, Dementia, clefyd Parkinson, a chyflyrau iechyd meddwl.
Drwy greu triniaeth unigryw a phersonol sy’n cyfuno realiti rhithwir a cherddoriaeth, mae VR-Melody yn ddatrysiad unigol y gellir ei gyflwyno ar raddfa fwy, sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.
Mae'r astudiaeth yn rhan o ffrwd ariannu Realiti Estynedig Mindset ar gyfer Iechyd Meddwl Digidol Innovate UK, ac mae'n adeiladu ar ymchwil a ariennir fel rhan o Media Cymru. Bydd canlyniadau’r astudiaeth yn cael eu cyhoeddi ddechrau 2025.
Dywedodd Dr Simon Riches, Seicolegydd Clinigol ar gyfer VR-Melody:
"Mae llawer o bobl yn cael trafferth gyda symptomau gorbryder. Drwy gyfuno realiti rhithwir a cherddoriaeth, rydyn ni’n gobeithio rhoi adnoddau i bobl i’w helpu gyda’u hiechyd meddwl ac i’w ddeall. Rydw i wedi bod yn defnyddio realiti rhithwir ar gyfer triniaethau iechyd meddwl ers blynyddoedd lawer ac wedi gweld ei effaith gadarnhaol ar gleifion. Bydd y prosiect hwn yn ehangu ein gwybodaeth am rinweddau unigryw realiti rhithwir ac, yn y pen draw, mae ganddo botensial enfawr i helpu mwy o gleifion. Rydyn ni eisiau dechrau chwyldro o ran y ffordd mae iechyd meddwl yn cael ei drin, a gwneud gwahaniaeth i lesiant pobl."
Dywedodd Kevin Moss, Prif Swyddog Gweithredol Rescape Innovation:
“Rydyn ni’n gweld yr effaith gadarnhaol y mae ein triniaeth therapiwtig, o’r enw DR.VR, yn ei chael ar staff a chleifion bob dydd. Mae’r prosiect hwn yn gyfle cyffrous i archwilio pŵer cerddoriaeth. Bydd angen gweledigaethau beiddgar a phartneriaethau newydd arnom er mwyn datrys yr argyfwng iechyd meddwl mewn cymdeithas. Mae UMG yn rhoi adnodd helaeth o gerddoriaeth boblogaidd, gwybodaeth ac ysbrydoliaeth, y gallwn eu defnyddio i sbarduno ffordd newydd o feddwl am ffitrwydd meddyliol.”
Dywedodd James Healy, Uwch Is-Lywydd, Strategaeth Ddigidol a Datblygu Busnes, Universal Music Group:
"Mae cofnod da o bŵer cerddoriaeth mewn perthynas ag iechyd meddwl. Mae'r astudiaeth gydweithredol newydd hon – sy'n cyfuno catalog cerddoriaeth UMG a realiti rhithwir – yn agor llwybr newydd i drin gorbryder, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl."
Dywedodd Dr Kim Smallman, Cydymaith Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd:
“Pan fyddwn yn meddwl am y cynnydd yn nifer y bobl sy’n profi iechyd meddwl gwael, a’r pwysau sydd ar wasanaethau iechyd meddwl yn y DU ac yn fyd-eang, mae angen atebion arloesol sy’n gallu gweithio ar raddfa fawr. Mae tystiolaeth helaeth o fanteision cerddoriaeth a’i photensial i helpu gyda gorbryder, llesiant ac iechyd meddwl. Mae'r prosiect hwn yn gyfle unigryw i ymchwilio i sut gall artistiaid poblogaidd UMG a'u cerddoriaeth helpu i leihau symptomau gorbryder a meithrin gwytnwch.”
Dywedodd Jamie Smith, Cyfarwyddwr Ymchwil ac Arloesi yn Hafod:
“Fel busnes sy’n canolbwyntio ar bobl, mae ein cydweithwyr wrth galon ein gwaith. Mae’r rhai sydd yn ein timau rheng flaen yn profi blinder emosiynol, a lefelau llesiant isel ar adegau. Gallai bod yn rhan o’r prosiect hwn ein helpu ni i ddatgloi rhywbeth arloesol.”