Bydd digwyddiad mwyaf Partneriaeth Genomeg Cymru yn tynnu sylw at botensial genomeg i wella gofal iechyd yng Nghymru.

Genomics Showcase

Ddydd Gwener 14 Mai, byddwn yn arddangos yn yr Arddangosfa Genomeg a gynhelir gan Barc Genynnau Cymru ar ran Partneriaeth Genomeg Cymru (GPW). Mae’r digwyddiad a gwaith y Bartneriaeth yn cyfrannu at gyflwyno Strategaeth Genomeg ar gyfer Meddygaeth Fanwl Llywodraeth Cymru.

Bydd rhaglen y digwyddiad yn ymdrin â’r holl feysydd allweddol sy’n ymwneud â genomeg, a bydd yn cynnwys sgyrsiau arbenigol, gweithdai rhyngweithiol, a hwyluso trafodaethau ystyrlon. Mae’r digwyddiad traws-sector hwn yn darparu ar gyfer cynulleidfa eang sy’n cynnwys y cyhoedd, cleifion, ysgolion, colegau, gweithwyr iechyd proffesiynol, diwydiant ac ymchwilwyr.

Mae’r gynhadledd yn cynnig cyfle i gwrdd â sefydliadau sy’n ymwneud â genomeg a’i ddatblygiad yng Nghymru drwy neuadd arddangos rithiol.  

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch iawn o fod yn bresennol yn y digwyddiad. Bydd Arweinydd ein Prosiect ar gyfer Meddygaeth Fanwl, Andrew Hall, yn ymgysylltu â chynrychiolwyr ac yn rhannu’r gwaith rydym yn ei wneud ym meysydd meddygaeth fanwl a therapïau uwch.

Dywed Andrew Hall, Arweinydd y Prosiect, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: 

“Mae’r rhain yn feysydd sy’n esblygu’n gyflym ac sy’n galw am gydweithrediad a chyd-gynhyrchu rhwng sefydliadau iechyd a gofal, academia, a diwydiant er mwyn ymateb i heriau newydd a gwella canlyniadau i gleifion. 

“Rydyn ni eisiau helpu i ateb gofynion yr heriau hyn a gwneud y meysydd gofal cleifion hyn yn norm newydd; ein helpu ni i’ch helpu chi”

Cofrestrwch i ddod i’r Arddangosfa

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn genomeg, cewch ragor o wybodaeth am yr Arddangosfa Genomeg a manylion cofrestru yma. I’r rheini sy’n dod i’r digwyddiad, cofiwch alw heibio ein stondin ar-lein a rhannu eich prosiectau a’ch syniadau â ni a thrafod a allwn ni chwarae rhan mewn cydweithio i arloesi ym maes gofal iechyd yng Nghymru.

Cysylltu â ni

Gallwch hefyd gysylltu ag Andrew a gweddill ein tîm ymgysylltu unrhyw bryd, drwy anfon e-bost at hello@lshubwales.com.