Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Ydych chi’n dod i ConfedExpo y GIG ym Manceinion fis Mehefin? Mae ein tîm yn edrych ymlaen at arddangos yn y digwyddiad dau ddiwrnod hwn, lle byddwn yn trafod ein rhaglen barhaus o weithgareddau sy’n canolbwyntio ar roi arloesedd ar y rheng flaen yng Nghymru.

NHS ConfedExpo 2023

Ydych chi’n dod i ConfedExpo y GIG ym Manceinion fis Mehefin? Mae ein tîm yn edrych ymlaen at arddangos yn y digwyddiad dau ddiwrnod hwn, lle byddwn yn trafod ein rhaglen barhaus o weithgareddau sy’n canolbwyntio ar roi arloesedd ar y rheng flaen yng Nghymru.

Mae ConfedExpo y GIG yn ddigwyddiad blynyddol blaenllaw ar gyfer sector gofal iechyd y DU. Mae’n denu dros 5,000 o bobl sy’n frwdfrydig dros sbarduno trawsnewid. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, llunwyr polisïau ac arweinwyr y diwydiant yn dod ynghyd ym Manceinion ar 12 a 13 Mehefin i rannu gwybodaeth ac i drafod yr arloesi diweddaraf.

Bydd yr arddangosfa’n cynnwys siaradwyr gwadd, trafodaethau panel, gweithdai a chyfleoedd rhwydweithio. Bydd yn llwyfan i ddangos cynnyrch a gwasanaethau newydd, i gyfnewid syniadau, ac i feithrin cydweithrediad rhwng amrywiaeth o randdeiliaid yn y sector.

Mae ein tîm yn edrych ymlaen at deithio i Fanceinion i gysylltu â hen bartneriaid a rhai newydd. Byddwn ni yn y ‘Theatr Arloesi’. Dewch draw am sgwrs ac i gael y newyddion diweddaraf gennym ni.

Un o’n prif flaenoriaethau eleni yw gwella diagnosteg a llwybrau canser yng Nghymru. Dyma rywfaint o’n gwaith:

  • Cynnull partneriaethau sy’n seiliedig ar bwrpas â’r diwydiant
  • Integreiddio rhaglenni sy’n cyd-fynd â Rhwydwaith Canser Cymru a Fforwm Diwydiant Canser Cymru
  • Cyflymu arloesedd ac eirioli dros gyfleoedd i gyd-ddatblygu

Rydyn ni wedi ymrwymo i helpu Llywodraeth Cymru i wella gofal canser yn sylweddol i bobl Cymru.

Bydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn y digwyddiad hefyd, yn cynrychioli gofal iechyd Cymru. Bydd yn arddangos ei raglenni arobryn, Arweinyddiaeth Dosturiol a Gwella Ymchwiliadau Gweithwyr, ynghyd â’i arloesedd digidol i gefnogi addysg a hyfforddiant gweithlu’r GIG yng Nghymru.

“Rydw i a’r tîm yn edrych ymlaen yn arw at ddod i ddigwyddiad ConfedExpo y GIG am y trydydd gwaith. Mae’r digwyddiad yn gyfle delfrydol i gysylltu â phartneriaid a meithrin cydweithrediad er mwyn rhoi arloesedd ar y rheng flaen yng Nghymru. Rydw i’n edrych ymlaen at drafod ein mentrau, yn enwedig o ran gwella llwybrau canser, ac edrych ar sut gallwn ni ychwanegu gwerth at waith ein gilydd er mwyn gallu integreiddio arloesedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.” - Cari-Anne Quinn, Prif Weithredwr, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

Os byddwch chi yn y digwyddiad ac yn dymuno trafod sut gallwn ni eich helpu chi, dewch i’n gweld yn y Theatr Arloesi. I drefnu cyfarfod â’n Prif Weithredwr, e-bostiwch helo@hwbgbcymru.com