Roedd yn bleser gennym fynd i Gynhadledd Flynyddol ac Arddangosfa Conffederasiwn GIG Cymru 2022, lle bu ein Prif Weithredwr, Cari-Anne Quinn, yn rhoi sgwrs am sut mae arloesedd digidol yn trawsnewid gofal clwyfau yng Nghymru. 

Mae Cari-Anne Quinn yn sefyll ar flaen y llwyfan yn siarad â’r gynulleidfa. Y tu ôl iddi mae tri aelod y panel yn eistedd.

Mae Conffederasiwn GIG Cymru yn blaenoriaethu cydweithio ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru a’r DU. Mae’r gynhadledd yn gyfle i siaradwyr, panelwyr a chynadleddwyr o amrywiaeth o sectorau iechyd a gofal cymdeithasol i rannu’r heriau, y cyfleoedd a’r wybodaeth ddiweddaraf o’u meysydd arbenigol. 

Roedd yr agenda, a gynhaliwyd ar 1Tachwedd yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd, Caerdydd, yn cynnwys trafodaethau ar fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, ymgysylltu â chymunedau i newid iechyd a gofal cymdeithasol, a sut mae arloesedd digidol yn trawsnewid gofal iechyd yng Nghymru.

 

Harneisio arloesedd i wella bywydau a chreu newid cadarnhaol

Rhannodd ein Prif Swyddog Gweithredol, Cari-Anne Quinn sut roedden ni wedi cefnogi Healthy.io a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i drawsnewid gofal clwyfau’r GIG drwy dreialu ap digidol. Mae’r dechnoleg yn galluogi monitro clwyfau cleifion o bell yng nghysur eu cartref eu hunain, casglu data’n fanwl gywir, a gwneud llwyth achosion yn fwy amlwg ymysg ymarferwyr. 

Mae manteision eraill yn cynnwys dull safoni a ddarperir gan y data a gesglir. O ganlyniad, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi gallu rheoli llwythi achosion yn fwy effeithiol a chyflwyno newidiadau mewn strategaethau rheoli clwyfau. 

Roedd thema allweddol y digwyddiad yn canolbwyntio ar gydweithio ac atebion arloesol wedi’u hysbrydoli gan heriau. Rhoddodd Harriet Wright-Nicholas o Senedd Ieuenctid Caerffili enghraifft gref o hyn. Roedd yn tynnu sylw at sut roedd pandemig Covid-19 wedi rhoi cyfle i weithio ar-lein, a sut gallai meddygon teulu ddefnyddio galwadau fideo fel dull ymarfer safonol i leihau rhwystrau ac arbed amser i gleifion a meddygon yng Nghymru.  

Ym maes arloesi digidol, adroddodd Dr Anya Skatova am ddatblygiadau ymchwil cyffrous a oedd yn digwydd gyda data. Gall fapio gwerthiannau a phryniannau siopa roi cipolwg ar y berthynas rhwng ffordd o fyw ac iechyd ar gyfer ymarferwyr gofal iechyd.  

Roedd yn amlwg bod cydweithio, gweithio mewn partneriaeth ac agwedd agored at wneud pethau’n wahanol yn gallu arwain at y newidiadau systemig sydd eu hangen i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Mae gwrando ar ein cymunedau, deall eu hanghenion, a gweithio gyda nhw yn allweddol i ddatblygu atebion arloesol i gau’r bwlch mewn darpariaeth gofal iechyd.  

 

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: 

“Roeddem wrth ein bodd o gael y cyfle i siarad am arloesedd digidol a’n gwaith gyda’n partneriaid ym Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Healthy.io. Roedd hi’n wych cwrdd â chynifer o randdeiliaid, hen a newydd, a thrafod dyfodol gofal iechyd. Ar ben hynny, rydyn ni’n gyffrous ynghylch yr ymwybyddiaeth gynyddol o’r angen am fwy o arloesedd digidol yn GIG Cymru a sut gallwn ni barhau i weithio gyda’n gilydd i ddiwallu anghenion newidiol ein poblogaeth.”

 

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio ym maes arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac os hoffech chi gael cymorth, cysylltwch â ni drwy lenwi ein Ffurflen Ymholiad Arloesi.