Mae gennym ni bedair swydd wag ar gael i ymuno â’n Bwrdd fel Cyfarwyddwr Anweithredol ac i’n helpu ni i sicrhau mai Cymru yw’r lle mae pobl yn ei ddewis ar gyfer buddsoddi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hwn yn gyfle gwych i gymryd rhan ar lefel strategol yn y gwaith o sicrhau arloesedd ym maes gwyddorau bywyd i’r rheini sydd ei angen.
Gwybodaeth am y rôl
Rydyn ni’n chwilio am bobl sydd â phrofiad o’r canlynol:
- Uwch arweinyddiaeth yn y sector technoleg feddygol
- Gweithio yn y maes cyllid arloesi, gyda phrofiad o arloesi cydweithredol a chyllid cyfalaf menter yn ddymunol iawn
- Meddygaeth Fanwl
- Y GIG o safbwynt cyllid a chaffael
Mae’n gyfnod cyffrous iawn i ymuno â’n tîm a gwneud gwahaniaeth go iawn drwy wella llesiant corfforol ac economaidd pobl yng Nghymru. Mae sicrhau bod arloesi ym maes gwyddorau bywyd yn y rheng flaen ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rydyn ni’n falch o fod yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o alluogi hyn; gan weithredu fel rhyngwyneb deinamig rhwng diwydiant, iechyd a gofal cymdeithasol.
Yr hyn rydyn ni’n ei ddisgwyl gan Gyfarwyddwr Anweithredol
Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys y canlynol:
- Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth yn feirniadol, er mwyn cefnogi datblygu strategaethau
- Cynghori ein bwrdd ar faterion allweddol, cynnig barn arbenigol, herio pan fo’n briodol, a chyfrannu at wneud penderfyniadau cadarn
- Goruchwylio stiwardiaeth effeithiol ar adnoddau gan sicrhau atebolrwydd a bod yn agored o ran dyrannu a defnyddio adnoddau
- Eirioli dros ein sefydliad ar draws y sector gwyddorau bywyd
Rhaid i Aelodau’r Bwrdd fod ar gael i weithio am o leiaf 12 diwrnod y flwyddyn. Bydd y Bwrdd yn cyfarfod o leiaf chwe gwaith y flwyddyn.
Byddwch chi’n cael tâl ar gyfradd ddyddiol o £282 hyd at uchafswm o £15,000 y flwyddyn (pro rata) ynghyd â chostau teithio a chynhaliaeth.
Gwnewch Gais Nawr!
I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i wefan Llywodraeth Cymru neu anfonwch e-bost at publicappointments@gov.wales.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 8 Mai 2023. Rydyn ni’n disgwyl cynnal y cyfweliadau yn ystod mis Gorffennaf 2023.