Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cefnogi Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i gwmpasu ei brofion pwynt gofal i helpu gwella gwasanaethau gofal sylfaenol ac mewn Unedau Mân Anafiadau. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod cleifion yn derbyn triniaethau yn gynt, ac yn lleihau’r angen am ail ymweliadau ac atgyfeiriadau.
Gan fod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi’i leoli mewn sir fawr a gwledig, nid yw’n darparu unrhyw wasanaethau gofal eilaidd sylweddol y byddech chi’n eu disgwyl mewn ysbytai mawr fel arfer. Nid yw ychwaith yn cynnig gwasanaethau gofal brys heb eu trefnu y tu allan i’r Unedau Mân Anafiadau. Yn hytrach, caiff cleifion eu trosglwyddo i wasanaethau y tu allan i’r sir neu i Ward Rithwir, sy’n efelychu swyddogaethau ward ysbyty draddodiadol o fewn lleoliad penodol yn y gymuned.
Defnyddir profion pwynt gofal gan y GIG i ddarparu gwasanaethau diagnostig sy’n cael eu cynnal yn agos at le bynnag mae’r claf ar y pryd, yn hytrach nag mewn labordy. Gall gwella’r profion pwynt gofal sydd ar gael mewn gwasanaethau gofal sylfaenol wella effeithlonrwydd gwasanaethau a chynnig manteision i gleifion drwy sicrhau bod penderfyniadau clinigol yn cael eu gwneud yn gynt.
Gallai darparu gwell mynediad ac adnoddau ar gyfer profion pwynt gofal helpu rheoli cyflyrau’n well, a hwyluso’r prosesau o ganfod a diagnosio’n gynharach. Gallai hefyd gyfyngu ar faint y byddai’n rhaid i gleifion ym Mhowys deithio i gyrraedd cyfleusterau gofal eilaidd y tu allan i’r sir i gael y gwasanaethau diagnostig sydd eu hangen arnynt.
Sut mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi helpu?
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cefnogi’r prosiect drwy ddod â darparwyr gofal sylfaenol ynghyd i gefnogi’r gwaith o greu cynllun sylfaen drwy egluro eu prosesau cefnogi presennol, a thrwy ddarparu gwybodaeth dechnegol i helpu nodi meysydd blaenoriaeth allweddol ar gyfer profion pwynt gofal yn y rhanbarth.
Mae ein Tîm Gwybodaeth y Sector wedi cynnal adolygiad helaeth o’r ddarpariaeth a’r bylchau presennol sy’n bodoli, ac wedi canfod a gwneud argymhellion ar gyfer cyflwyno profion pwynt gofal ychwanegol ym maes gofal sylfaenol ym Mhowys.
Mae hyn wedi galluogi’r prosiect i symud ymlaen i’w ail gam, lle bydd rhanddeiliaid yn ailymgynnull i adolygu’r canlyniadau a’r argymhellion. Os yw’n briodol, byddant yn datblygu achos busnes ac yn mynd drwy broses gymeradwyo ffurfiol drwy Bwyllgor Gwaith y Bwrdd Iechyd.
Dywedodd Lucie Cornish, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys – Gwasanaethau Corfforaethol: “Roedd gweithio mewn partneriaeth â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar y prosiect hwn wedi galluogi rhanddeiliaid i ymgysylltu â’i gilydd i greu cynllun sylfaen. Roedd y bartneriaeth hefyd wedi ein caniatáu i gynnal gwerthusiad technegol o’r opsiynau posibl – rhywbeth na fyddwn wedi gallu ei gyflawni ar ein pen ein hunain. Bydd y gwaith hwn yn cael ei ymgorffori yn y gwaith o ddatblygu strategaeth ddiagnostig ar gyfer Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, ac mae wedi tynnu sylw at botensial profion pwynt gofal i’n cymuned wledig.”
Dywedodd Rhodri Griffiths, Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: “Gallai gwella profion pwynt gofal helpu i gefnogi’r gwaith o drawsnewid ein gwasanaethau gofal sylfaenol. Yng nghefn gwlad Powys, byddai hyn yn golygu y gallai cleifion gael gafael ar wasanaethau diagnostig yn haws a chael canlyniadau profion yn gynt. Roeddem yn falch iawn o allu defnyddio ein harbenigedd i allu cefnogi Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i fwrw ymlaen â hyn.”
Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth, arweiniad ac adnoddau ar gyfer sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth am sut gallwn ni eich helpu chi ar gael ar ein tudalen cymorth arloesi.