Mae Academi Dysgu Cymhwysol ar gyfer Iechyd Ataliol Prifysgol Bangor (ALPHAcademi) yn cynnig cyfleoedd cyffrous i astudio cyrsiau ôl-radd ym maes iechyd ataliol, iechyd y boblogaeth ac arweinyddiaeth.
Mae'r ALPHAcademi bellach yn derbyn ceisiadau ar gyfer eu cyrsiau MSc, PGDip a PGCert, gyda chofrestru ar gael ym mis Ionawr 2023 a mis Medi 2023. Er mwyn cynnig yr hyblygrwydd mwyaf posib, gellir astudio’r holl gyrsiau hyn yn rhan-amser neu'n llawn amser, naill ai ar y campws neu drwy ddysgu o bell, Mae nifer o leoedd wedi’u hariannu’n llawn ar gael ar y cyrsiau hyn drwy gynllun ysgoloriaethau ALPHAcademi, a fydd yn ailagor tua dechrau 2023.
Mae ALPHAcademi yn cynnal gweithdai AM DDIM mewn amrywiaeth o bynciau sy'n ymwneud ag iechyd ataliol. Bydd y gweithdai hyn yn cefnogi dysgwyr i uwchsgilio mewn ffordd hyblyg ac o fewn amserlen fydd yn gweddu â gofynion eu swyddi. Bydd pob gweithdy yn cael ei hwyluso gan arbenigwr pwnc blaenllaw ac yn cael ei gynnal ar-lein.
I gael rhagor o wybodaeth am yr holl gyrsiau, gweithdai a chyfleoedd ysgoloriaeth sydd ar gael, ewch i wefan ALPHAcademi: www.bangor.ac.uk/cy/academi-dysgu-cymhwysol-ar-gyfer-iechyd-ataliol-alphacademi
Mae iechyd ataliol yn ymwneud â helpu pobl i fod yn iach, yn hapus ac yn annibynnol cyhyd ag y bo modd, nid dim ond eu trin pan fyddant yn mynd yn sâl. Mae’r ALPHAcademi’n cydnabod dylanwad penderfynyddion cymdeithasol ehangach, ac mae’n dwyn ynghyd arweinwyr a darpar arweinwyr o amrywiol wasanaethau a sectorau i ddysgu trwy wneud, ar sail tystiolaeth a chael eu cymell gan gyfraniadau gan arbenigwyr o fri. Datblygwyd yr ALPHAcademi fel rhan o bartneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac mae'n cael ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru.