Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y DU yn negodi Cytundebau Masnach Rydd gyda nifer o wledydd gan gynnwys India, Cyngor Cydweithredol y Gwlff, Canada ac Israel.
Beth mae hynny’n ei olygu i gwmnïau gwyddorau bywyd?
Gall darpariaethau (telerau ac amodau) mewn Cytundebau Masnach Rydd i fasnachu a hwyluso masnach mewn nwyddau, yn enwedig o ran tariffau (trethi mewnforio), rheolau tarddiad a threfniadau tollau, helpu i gefnogi masnachu nwyddau rhwng partneriaid masnachu. Yn yr un modd, gall darpariaethau gwasanaethau helpu i hwyluso masnach rhwng partneriaid gyda darpariaethau mewn meysydd fel eglurder o ran cydnabod cymwysterau proffesiynol, cysondeb rheoleiddiol ac Eiddo Deallusol sy'n arbennig o berthnasol i fusnesau gwyddorau bywyd. Fodd bynnag, gan fod cytundebau masnach rydd yn setliadau wedi’u negodi, bydd elfennau o anghydbwysedd bob amser yn y fargen derfynol, lle gallai un wlad gael gwell canlyniad i’w busnesau mewn ardaloedd penodol.
Pam mae angen i gwmnïau gwyddorau bywyd gymryd rhan mewn Cytundebau Masnach Rydd cyn iddynt ddod i ben?
Mae Cytundebau Masnach Rydd yn cael eu defnyddio fel adnoddau i gefnogi a darparu fframwaith i fusnesau fasnachu’n rhyngwladol. Mae Cytundebau Masnach Rydd modern yn cynnwys darpariaethau ar amrywiaeth eang o feysydd o ddigidol i amgylchedd fel ei fod yn adlewyrchu arferion a gofynion busnes modern. Felly, ni ellir – ac ni ddylai - Cytundebau Masnach Rydd gael eu datblygu’n annibynnol gan lywodraethau heb gefnogaeth ac arbenigedd gan ddiwydiannau. Yn Llywodraeth Cymru, mae gennym dîm Polisi Masnach pwrpasol sy’n canolbwyntio ar gyflwyno buddiannau Cymru, gan gynnwys buddiannau busnes, i Lywodraeth y DU yn ystod trafodaethau byw gyda’r nod o sicrhau’r fargen orau bosibl i Gymru. Gan nad yw Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan weithredol yn y trafodaethau eu hunain, ac yn dibynnu ar bolisi Llywodraeth y DU, mae buddiannau Cymru weithiau’n cael eu hadlewyrchu’n gryfach nag eraill yn y cytundeb terfynol.
Sut mae cymryd rhan?
Mae Llywodraeth Cymru am ymgysylltu â busnesau yn y sector gwyddorau bywyd i helpu i nodi buddiannau Cymru i Lywodraeth y DU eu targedu mewn trafodaethau’r Cytundebau Masnach Rydd, yn ogystal â’u helpu i ddeall y risgiau i’ch busnes yn well os bydd y Cytundebau Masnach Rydd yn mynd yn rhy anghyson o blaid y wlad arall.
Heb eich mewnbwn chi, mae’n bosib y bydd cytundebau masnach rydd yn cael eu negodi a’u cytuno ar lefel uchel a fydd yn golygu na fydd busnesau’n gallu eu defnyddio, neu fod y cytundebau masnach rydd yn anghymesur o ran cefnogi eu cystadleuwyr o’r wlad arall. Gallai hyn fod yn arbennig o wir pe bai’r wlad arall wedi cael mewnbwn mwy manwl gan eu sectorau ar gyfer trafodaethau’r Cytundebau Masnach Rydd.
Os hoffech gefnogi'r maes gwaith hwn, anfonwch e-bost at tradepolicy@gov.wales.