Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â chyngres Advanced Therapies, a gynhelir rhwng 14 a 15 Mawrth 2023 yn ExCel, Llundain.
Y digwyddiad hwn yw’r arddangosfa a’r gynhadledd therapi celloedd a genynnau mwyaf yn Ewrop, ac mae’n croesawu gweithwyr ar draws diwydiant, gofal iechyd a’r llywodraeth. Mae’r digwyddiad yn rhoi cyfle i wneuthurwyr penderfyniadau fod yn bresennol i drafod sut y gallant fwrw ymlaen â’r datblygiadau yn y maes hwn ac annog pobl i’w fabwysiadu yn ein systemau iechyd.
Mae therapïau datblygedig yn faes cyffrous o feddygaeth fanwl sy’n cynnwys therapïau celloedd a genynnau. Mae gan y mathau hyn o driniaeth botensial i allu trwsio, disodli, adfywio ac ail-adeiladu genynnau, celloedd a meinweoedd er mwyn adfer gweithrediad arferol. Gallai triniaethau o’r fath gynnig canlyniadau parhaol neu hyd yn oed gwell i gleifion sydd ag anghenion meddygol heb eu diwallu.
Mae’r digwyddiad eleni yn cynnwys agenda amrywiol sy’n cynnwys cyflwyniadau, paneli a chyfarfodydd bwrdd crwn. Bydd y pynciau dan sylw yn cynnwys therapi celloedd, therapi genynnau, gweithgynhyrchu, gweithgynhyrchu fectorau feirysol, masnacheiddio, cadwyni cyflenwi a logisteg.
Dywedodd Gareth Healey, Arweinydd y Rhaglen (Meddygaeth Fanwl):
“Mae gan arloesi ym maes therapïau datblygedig y potensial i drawsnewid gofal iechyd ar gyfer cleifion a staff, a dyna pam rydyn ni wedi sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’n meysydd blaenoriaeth yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru. Rydyn ni’n falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â chyngres Advanced Therapies eleni, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at archwilio sut gallwn ni gyflymu’r gwaith o fabwysiadu a datblygu atebion arloesol yn y maes hwn.”
Fel rhan o’n partneriaeth gyffrous gyda’r Gyngres Therapïau Datblygedig rydym yn gallu cynnig gostyngiad o 50% ar docynnau i gydweithwyr! I sicrhau eich tocyn defnyddiwch y cod LSWALES50 wrth y ddesg dalu.
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad ac i gofrestru i fod yn bresennol, ewch i wefan Wefan y Gyngres Therapïau Datblygedig.