Beth sy’n digwydd pan fydd pobl yn cael gwared ar eu meddyginiaethau i lawr y draen? Mae ail bennod ein cyfres o bodlediadau Syniadau Iach yn edrych ar effeithiau amgylcheddol llygredd dŵr o ganlyniad i gynnyrch fferyllol.

A lake in the shape of human footprints

Gallai llygredd yn ein hafonydd a’n dyfrffyrdd o feddyginiaethau a chynnyrch fferyllol fod yn gymaint o fygythiad i iechyd y byd â newid yn yr hinsawdd. Bu ein cyflwynydd a’n Cyfarwyddwr Mabwysiadu Arloesedd, Rhodri Griffiths, yn siarad â Siân Williams, Pennaeth Gweithrediadau – Cyfoeth Naturiol Cymru, Gogledd Orllewin Cymru, ac Elen Jones, Cyfarwyddwr Cymru – Y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol, am y mater pwysig hwn.

Mae gwrthfiotigau’n un math o feddyginiaeth y mae pobl yn cael gwared arnynt i lawr y toiled, ac mi all hynny arwain at ymwrthedd i wrthfiotigau mewn pobl – rhywbeth sy’n cael ei weld gan Sefydliad Iechyd y Byd fel her a ddylai gael blaenoriaeth uchel. Dywedir hefyd fod gwaredu ar feddyginiaethau atal cenhedlu menywod yn broblem sylweddol gan eu bod yn cael effaith niweidiol ar boblogaethau pysgod. 

Mae’r podlediad yn trafod sut mae Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol yng Nghymru’n cydweithio i ganfod maint y broblem yng Nghymru ac i ganfod pa fathau o gynnyrch fferyllol sy’n bresennol. 

Meddai Siân: “Cychwyn y broses ydy’r cydweithio efo’r Gymdeithas Fferylliaeth i weld beth yw’r sefyllfa a sut allwn ni ddatrys unrhyw effeithiau amgylcheddol sydd i’w weld yma yng Nghymru. Mae gynnon ni argyfwng newid hinsawdd, mae gynno ni argyfwng bioamrywiaeth yn barod… wedyn mae hwn yn haen arall i ychwanegu at yr argyfwng - a’r potensial i fod yn waeth.” 

Gwrandewch nawr:

Fel arall, gallwch wrando ar bodlediad Syniadau Iach ar: Apple Podcasts, Spotify a Google Podcasts.