Mae’r Rhaglen Cyfnewid Arloesedd yn gweithio gydag Oxford Innovation Advice a Chanolfan Arloesi Genedlaethol y DU ar gyfer Heneiddio (NICA) i gefnogi cwmnïau sy’n gweithio ym maes heneiddio’n iach. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael naw wythnos o gefnogaeth wedi’i hariannu’n llawn gan NICA, Oxford Innovation Advice ac arbenigwyr KTN Innovate UK.

Senior woman contemplating at home

Mae gan y farchnad heneiddio’n iach sy’n datblygu lawer o botensial economaidd a gallai helpu i gefnogi’r anghenion iechyd a gofal cymdeithasol sy’n esblygu. Mae cynnal iechyd da yn hŷn yn hanfodol er mwyn cynnal ansawdd bywyd da ein poblogaeth sy’n byw’n hirach.

Mae Rhaglen Cyflymydd Heneiddio’n Iach NICA ar gyfer cwmnïau o bob maint o bob cwr o’r DU sydd â syniad am gynnyrch neu wasanaeth newydd i gefnogi pobl i aros yn iach ac yn egnïol. Bydd yn cynnig arweiniad arbenigol i helpu cwmnïau i dyfu eu busnes, sy’n cynnwys helpu’r cyfranogwyr i archwilio’r farchnad sy’n tyfu’n gyflym yn Tsieina.

Pa fath o brosiectau sy’n berthnasol?

Mae’r rhaglen cyflymydd yn chwilio am syniadau ar gyfer cynnyrch neu wasanaethau a allai helpu unrhyw un o unrhyw oed i fyw bywyd cyflawn, symudol a diogel gydag annibyniaeth. Mae hyn yn cynnwys y meysydd canlynol, ond nid dim ond y rhain:

  • Symudedd
  • Symudedd corfforol (gan gynnwys deheurwydd a gafael)
  • Cerddediad

Sut byddaf i’n elwa?

Dros gyfnod o naw wythnos, bydd cyfranogwyr y rhaglen Cyflymydd yn cael:

  • Sesiwn diagnostig cychwynnol i ganfod y potensial i dyfu
  • Rhaglen wyneb yn wyneb un wythnos o hyd sy’n rhoi sylw i faterion hanfodol sy’n ymwneud â thwf busnesau, gan gynnwys parodrwydd i fuddsoddi, ac archwilio’r cyfleoedd sylweddol yn y farchnad yn y maes heneiddio’n iach
  • Hyfforddiant un-i-un gan arbenigwr tyfu busnes i fynd i’r afael â’r heriau a nodwyd yn y sesiwn ddiagnostig
  • Dadansoddiad penodol o farchnad Tsieina sy'n tyfu a chyflwyniad i'r farchnad honno
  • Y cyfle i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr ychwanegol a sesiynau rhwydweithio â chymheiriaid sy’n ymdrin â phynciau o’ch dewis
  • Cyfle i fynd i Arddangosfa Cwsmeriaid ac Arddangosfa Fuddsoddi i gwrdd â chwsmeriaid posibl a buddsoddwyr yn y drefn honno
  • Mynediad at gyllid er mwyn gallu defnyddio’r cyfleusterau catalydd helaeth
  • Mynediad at Entrepreneur Preswyl yn NICA i ddatblygu eich cysylltiadau

Sut mae gwneud cais?

Y dyddiad cau i wneud cais yw 25 Awst 2022. I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i wefan KTN Innovation Exchange.