Hyd y prosiect: 6 mis

Partneriaid: Pennog cyf and Cyflymu Arloesi Clinigol (CIA) Prifysgol Caerdydd

Nod y prosiect: Gwerthuso pa mor effeithiol yw haenau'n tarddu o ddefnyddiau naturiol hynod arloesol gyda gweithgaredd lladd feirysu yn erbyn coronafeirws SARS-CoV-2 i gynhyrchu offer diogelwch personol diogelach a lleihau gwastraff trwy gynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio

A photo of a scientist in a lab

Trosolwg o’r prosiect

Defnyddir offer diogelwch personol mewn llawer iawn o fannau i amddiffyn defnyddwyr rhag risgiau i'w hiechyd a’u diogelwch. Mae enghreifftiau o offer diogelwch personol yn cynnwys menig, amddiffynwyr llygaid, cysgodion llygaid, helmedau a masgiau. Mae’r pandemig COVID wedi cynyddu'r gofyn am offer diogelwch personol a dyfeisiadau meddygol, un defnydd.

Hefyd, dylai mannau a gweithgareddau risg uchel fod yn fwy gwydn ac effeithiol wrth drin a defnyddio offer diogelwch personol ac wynebau a allai fod â thaeniad msarwol o'r feirws. Mae'r prosiect hwn yn adeiladu ar gydweithio, yn cael ei gefnogi gan Innovate-UK, rhwng Canolfan BioGyfansoddion Prifysgol Bangor a Pennog Cyf, i ddatblygu deunyddiau o darddiad naturiol lladd feirysau trwy geisio asesu effeithiolrwydd haenau a ffurfweddwyd yn llonyddu firysau yna’n eu dinistrio, wrth iddyn nhw gyffwrdd â haen ar yr wyneb.

Diben yr haen wyneb hwn yw gwneud deunyddiau sydd mewn cysylltiad â COVID-19 a firysau eraill yn ddiogel. Gallai droi’r defnydd o offer diogelu personol o rywbeth sy’n lledaenu firysau i fod yn ddyfais

symudol i wneud firysau’n ddiffrwyth.

Cyfraniad Cyflymu

Mae Cyflymu yn cefnogi’r cydweithrediad hwn gyda diwydiant i ganolbwyntio ar baratoi ac ar effeithiolrwydd yr haenau hynod arloesol o darddiad naturiol (sy’n cynnwys quat-chitosan) sy’n gallu lladd firysau. Mae hyn yn cael ei alluogi drwy arbenigedd Prifysgol Caerdydd mewn firoleg a rheoli prosiect, a gallu a phrofiad masnachol Pennog.

A photo of the lab office

Canlyniadau

  • Dangos pa mor effeithiol yw sylwedd lladd firysau a faint yw cost cynhyrchu dyfeisiadau meddygol ac wynebau offer diogelu personol gyda haen o laddwr firysau
  •  Tystiolaeth o sut y mae'n gweithredu a'r defnydd biofeddygol o bolymerau naturiol wedi'u haddasu'n gemegol fel sylwedd lladd firysau
  • Technoleg haenau lladd firysau – o ffynonellau cynaliadwy yn cael i gynhyrchu gan Pennog Cyf
  • Trosi PPE un-defnydd am gynhyrchion aml-ddefnydd sy'n para'n hirach

Effaith yn y dyfodol

  • Creu gwaith cynhyrchu newydd, gwerthfawr a hefyd gyflogaeth yng Nghymru
  • Astudiaethau achos academig
  • Cydweithrediad yn cael ei arwain gan ddiwydiant, Cymru gyfan, yn cyfuno arbenigedd Prifysgol Caerdydd ac arbenigedd cemeg synthetig Prifysgol Bangor i ddatblygu llwyfan ar gyfer ymchwil pellach i brosiectau Ymchwil a Datblygu
  • Cyfleoedd arwyddocaol i gynyddu incwm grant a chyflogi staff ymchwil
  • Data newydd i gefnogi datblygu ymyriadau iechyd pellach
  • Cyhoeddiadau’n cael eu hadolygu gan gymheiriaid
  • Cefnogaeth i raglen Cenhadaeth Ddinesig y Brifysgol
  • Buddion amgylcheddol trwy ostyngiadau mewn gwaredu gwastraff.

Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen Cyflymu a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru.

Cyflymu logos partner