Mae'r gallu i gasglu a dadansoddi data ym maes iechyd a gofal yn tyfu'n esbonyddol. Yn y bennod hon mae Rhodri Griffiths yn sgwrsio â Richard Walker, cyn Pennaeth Gwasanaethau Gwybodaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (nawr yn Prif Swyddog Gwybodaeth Ddigidol, Sherwood Forest Hospitals NHS Foundation Trust) am y wybodaeth sydd gan Fyrddau Iechyd am gleifion a sut y caiff ei defnyddio. 

Mae potensial enfawr i ddatblygu diagnosis, triniaeth ac atal afiechyd yn ogystal â meithrin arferion iach. Pan gaiff ei ddefnyddio'n gywir, mae Data Mawr yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar gwmnïau a sefydliadau gofal iechyd i bersonoli gofal iechyd a chreu arferion gorau ar gyfer gweithio gyda chleifion. 

“Os da chi isho gwybod faint o bobl rhwng 50 - 70 oed sydd wedi torri clun yn ardal Corris fedran ni ateb hynna.” medd Richard. Maent hefyd yn anfon y wybodaeth i'r llywodraeth yn ddienw fel y gellir gwneud penderfyniadau polisi am ofal iechyd. “Os da ni isho trefnu gwasanaeth newydd, da ni’n gwbod faint o bobl da ni eisiau i ateb y galw am y gwasanaeth yna.” 

“Mae’r gwasanaeth imiwneiddio yng Nghymru, da ni’r gorau yn y byd, ac mae ein bwrdd iechyd ni wedi bod y gorau yng Nghymru ar wahanol adegau ac mae hwnnw’n ymwneud a safon y gwybodaeth - er enghraifft efo textio pobl, gyrru llythyrau ag ati i wneud yn siwr fod pobl yn troi i fyny. Mae o di bod yn broses anferth.” medd Richard. 

Gwrandewch nawr:

Fel arall, gallwch wrando ar bodlediad Syniadau Iach ar: Apple Podcasts, Spotify a Google Podcasts. 

Healthy Thinking 

Mae pennod ddiweddaraf o'n chwaer podlediad Healthy Thinking yn trafod a ddylai ein data meddygol gael ei rannu’n eang â meddygon, cleifion ac ymchwilwyr meddygol er budd ein hunain ac eraill? Gwrandewch nawr