Mae mwy a mwy o wybodaeth yn cael ei chasglu amdanom bob dydd - pan ewn ni i’r meddyg, i’r deintydd, y fferyllfa a’r optegydd. Tynnu’r Data Mawr yma at ei gilydd er mwyn bod o fudd i ddoctoriaid ac ymchwilwyr yw nod technoleg Deallusrwydd Artiffisial. 

I drafod y potensial yma mae Rhodri Griffiths yn sgwrsio gydag Ifan Evans, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth – Iechyd a Gofal Digidol Cymru.  

Meddai Ifan: “Mae cymaint o ddata ar gael nawr fel ei fod e’n amhosib i unigolyn fynd trwy’r holl stwff a canfod pethau beth o bwys. Dyna lle mae AI yn gallu helpu sef tynnu’r data allan a’i gyflwyno mewn ffordd sy’n hawdd ei ddeall.”  

Mae dysgu peirianyddol hefyd yn help i hwyluso’r gwaith.

“Os oes na algorithm neu system o reolau ar gael yna fe allwch chi hyforddu’r cyfrifiadur i adnabod patrymau. Po fwya o ddata i chi’n rhoi mewn y mwyaf cywir yw’r canlyniadau,” medd Ifan.

Wrth edrych ar gannoedd o sgans neu luniau mae dadansoddi delwedd yn galluogi meddyg i weld abnormalau fel canser er enghraifft. 

“Mae lot o ddata mewn archifau papur ar draws y system iechyd. Cwestiwn arall yw os yw’r data na ar gael yn ddigidol.”  

Mae’n son am y gwaith arloesol gan Brifysgol Abertawe (SAIL) sydd wedi datblygu a darparu’r dechnoleg i nifer o sefydliadau drwy Brydain:

“Mae data’n cael ei dynnu mewn o’r cofnod iechyd, ei adio a’i gysylltu gyda data gweinyddol fel lleoliad addysg - a lle mae preifatrwydd yn cael ei warchod - ac wedyn mae hyn yn galluogi pobl i edrych ar batrymau iechyd poblogaeth gyfan.” medd Ifan. 

Ond mae llawer o waith i’w wneud eto, mae’n cyfadde.

“Serch hynny mae’n gyfnod cyffrous achos wi’n credu bod ni mynd i weld mwy a mwy o hyn yn cael ei gyflwyno i mewn i’r system iechyd a bydd rhai pethau’n cael eu datblygu yn arloesol yng Nghymru a mwy o bethau’n cael eu darparu trwy yr holl dechnoleg a phartneriaid digidol a diagnostig yma.”

Gwrandewch nawr:

Fel arall, gallwch wrando ar bodlediad Syniadau Iach ar: Apple Podcasts, Spotify a Google Podcasts. 

Healthy Thinking

Cofiwch gwrando ar ein chwaer podlediad Saesneg, Healthy Thinking lle mae Chris Martin yn trafod Data Mawr gyda Dr Manish Patel o gwmni JIVA.ai. Gwrandewch nawr