Yn gyffredin â gweddill y DU, mae’r GIG yng Nghymru yn wynebu rhai heriau enfawr wrth inni ddod allan o’r pandemig gwaethaf i daro’r wlad ers bron i ganrif. 

Yn y bennod hon mae’r Gweinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan AS yn cydnabod hyn ond yn cymryd y cyfle i dynnu sylw at y pethau cadarnhaol a ddaeth yn sgil Covid-19. Mae hi'n dweud wrth y gwesteiwr Rhodri Griffiths fod y ffyrdd newydd o weithio - gan ddefnyddio technoleg ddigidol - yn allweddol: o e-ragnodi i lawdriniaeth robotig. 

“Mae’n ddiddorol gweld pa mor gyffyrddus nawr mae pobl yn delio gyda’u GPs er enghraifft ac yn delio â nhw yn ddigidol yn hytrach nag yn wyneb yn wyneb. I ni wedi gwneud e’n glir bo ni ishe clou hwn i fewn i’r system hefyd.” 

Gan gyfeirio at yr ôl-groniad o restrau aros, mae'n gweld trawsnewidiad yn y ffordd y cynhelir ymgynghoriadau, gan wneud yn siŵr bod cleifion yn cael eu gweld yn eu cymunedau. 

“Mae hyn yn drawsnewid aruthrol a byddwn ni’n arbed arian ac amser i’r cleifion hynny yn enwedig y rhai sy’n byw yng nghefn gwlad lle mae pobl yn treulio llawer o amser yn teithio.” 

Gwrandewch nawr:

Fel arall, gallwch wrando ar bodlediad Syniadau Iach ar: Apple Podcasts, Spotify a Google Podcasts. 

Healthy Thinking 

Gallwch hefyd glywed y Gweinidog yn siarad â Chadeirydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Chris Martin yn ein chwaer bodlediad Saesneg, Healthy Thinking. Gwrandewch nawr