Mae technoleg gynorthwyol fel cadeiriau olwyn, a llinellau cysylltiol ar gael 24/7 yn galluogi pobl i fyw yn ddiogel ac annibynnol yn eu cartrefi ac mae’r dechnoleg yn dod yn fwy soffistigedig gydag iPads, robotiaid, systemau cysylltiedig a thechnoleg gwisgadwy bellach yn cael eu defnyddio i ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol.  

Yn y podlediad mae Gareth Rees, Arweinydd Rhaglen Arloesi Strategol Llesiant Delta, a Huw Marshall o gwmni Annwen Cymru yn trafod y sialens ynglyn â darparu’r dechnoleg a’i gwneud ar gael yn Gymraeg. 

Mae Gareth yn arwain prosiectau ag elfen ddigidol fel rhan o'r gwasanaeth Connect sydd ar gael yn Sir Benfro, Ceredigion a Chaerfyrddin.  Yn ôl Gareth mae nifer o bobl yn hoffi cyfathrebu gyda’r staff yn ei mamiaith, sef Cymraeg.

“Ma lot o dystiolaeth fod pobl yn fwy cyffyrddus yn trafod pethau meddygol gyda’i meddyg yn eu hiaith gyntaf. A phan ma pobl wedi drysu mae nhw’n mynd yn ôl i’w iaith gynta,” medd Gareth. 

Gyda deng mlynedd ar hugain o brofiad yn gweithio yn y cyfryngau mae Huw Marshall wedi sefydlu cwmni Annwen Cymru sydd wrthi’n datblygu rhwydwaith o hybiau cysylltiol a llwyfan creu cynnwys gyda ffocws gymunedol. 

Mae pobl wedi dod i arfer â chyfathrebu gyda theclynau fel Alexa a Siri, ond yn Saesneg, meddai.

“Mae technoleg ar gael nawr lle ry ni’n medru siarad efo dyfais yn hytrach na mewnbynnu drwy keypad ond mae’r gallu i wneud hynny yn Gymraeg yn mynd i fod yn bwysig iawn.”

“Pan fo pobl yn dioddef gyda dementia be sy mynd gynta yw ei sgiliau ail iaith felly mae’r angen i medru cyfathrebu efo technoleg yn Gymraeg yn hanfodol.” 

Mae Huw yn gweld bod na gyfle i arloeswyr yng Nghymru ddatblygu ac arbennigo mewn meddalwedd a thechnoleg dwyieithog.

“Mae tua 20% o’r byd yn siarad ieithoedd lleiafrifol. Ydy, mae o’n niche, ond mae o’n niche enfawr i ni fedru gwasanaethu,” medd Huw. 

Gwrandewch nawr:

Fel arall, gallwch wrando ar bodlediad Syniadau Iach ar: Apple Podcasts, Spotify a Google Podcasts. 

Healthy Thinking 

Mae ein chwaer podlediad Saesneg, Healthy Thinking yn trafod technolegau cynorthwyol gyda Carla Dix o gwmni Delta Wellbeing. Gwrandewch nawr