Step complete
Step complete
Step complete

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cefnogi Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i gwmpasu technolegau profion pwynt gofal i helpu gwella gwasanaethau gofal sylfaenol ac mewn Unedau Mân Anafiadau. 

Diffinnir profion pwynt gofal fel gwasanaethau diagnostig sy’n cael eu cynnal yn agos at le bynnag mae’r claf ar y pryd, yn hytrach nag mewn labordy. Gall hyn wella effeithlonrwydd gwasanaethau a manteision i gleifion drwy sicrhau bod penderfyniadau clinigol yn cael eu gwneud yn gynt. 

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gobeithio gwella ei brofion pwynt gofal er mwyn cefnogi cleifion a’i staff yn well. 

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi cefnogi’r gwaith cwmpasu hwn drwy gynnal adolygiad helaeth o’r darpariaethau a’r cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd.  

Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth, arweiniad ac adnoddau ar gyfer sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth am sut gallwn ni eich helpu chi ar gael ar ein tudalen cymorth arloesi

Testunau
Iechyd
Bwrdd Iechyd
  • Powys Teaching Health Board
Partneriaid / Ffynonellau Cyllid

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru

  • Diweddariadau
  • Canlyniadau
  • Allbynnau
Completed

01/09/2021

Cyfarfod ffurfiol cyntaf rhwng Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Bwrdd Addysgu Powys i drafod cynlluniau sylfaenol y gwasanaethau presennol a sefydlu gofynion gwybodaeth ar gyfer ymchwil i’r farchnad. 

Completed

01/11/2021

Dechrau’r broses o ymgysylltu â thimau clinigol a meddygon teulu ym Mwrdd Addysgu Powys i ddeall eu barn ar brofion pwynt gofal. 

Completed

01/01/2022

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn dechrau drafftio adroddiad ar offer profion pwynt gofal i’w defnyddio fel rhan o wasanaeth profi pwynt gofal gwell. 

Completed

01/04/2022

Cwblhau adroddiad cwmpasu ar brofion pwynt gofal gwell.  

Drwy wella profion pwynt gofal, y gobaith yw y byddai gwella mynediad a rhagor o adnoddau yn helpu cleifion i reoli eu cyflyrau’n well ac yn hwyluso’r prosesau o ganfod a diagnosio’n gynharach. 

Mae Powys yn sir mawr a gwledig a dim ond nifer gyfyngedig o wasanaethau gofal eilaidd sydd ar gael. Gallai gwella profion pwynt gofal leihau faint o bobl fyddai’n gorfod teithio allan o’r sir i gael mynediad at y gwasanaethau diagnostig sydd eu hangen arnynt.  

Mae’r ymchwil a gynhaliwyd gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi helpu’r prosiect i symud ymlaen i’w ail gam. Yma, bydd rhanddeiliaid yn adolygu canlyniadau ac argymhellion fel rhan o adroddiad mwy gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys. Os yw’n briodol, byddant yn datblygu achos busnes ac yn mynd drwy broses gymeradwyo ffurfiol drwy Bwyllgor Gwaith y Bwrdd Iechyd. 

Daeth Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a darparwyr gofal sylfaenol ynghyd i gefnogi’r gwaith o greu cynllun sylfaen drwy egluro eu prosesau cefnogi presennol, a thrwy darparu gwybodaeth dechnegol i helpu nodi meysydd blaenoriaeth allweddol ar gyfer profion pwynt gofal yn y rhanbarth. 

Mae ein Tîm Gwybodaeth y Sector wedi cynnal adolygiad helaeth o’r ddarpariaeth a’r bylchau sy’n bodoli ar hyn o bryd, ac wedi canfod a gwneud argymhellion ar gyfer cyflwyno profion pwynt gofal ychwanegol ym maes gofal sylfaenol ym Mhowys.