Caiff Fforwm Diwydiant Canser Cymru ei arwain gan Rwydwaith Canser Cymru a’i gefnogi gan sefydliadau amrywiol. Mae’r Fforwm yn gweithredu fel rhyngwyneb cydweithredol, gan ddarparu dull ymgysylltu rhwng sefydliadau ffarmacolegol, biodechnoleg a sefydliadau masnachol eraill yn y GIG ac yng Nghymru.
![Delwedd addurniadol yn y cefndir](https://lshubwales.com/sites/default/files/styles/banner/public/2022-07/Doctors%20Working%20With%20Computer%20And%20Analyzing%20Medical%20Scans_1.jpg?h=4875114b&itok=iEL_KzSa)
Fforwm Diwydiant Canser Cymru
Gwybodaeth am y rhwydwaith
Mae’r Fforwm yn cefnogi cynrychiolaeth traws-sector o ran partneriaethau a chydweithredu, ac mae’n gyfle i sefydliadau gael mewnbwn ar ddeilliannau canser yng Nghymru. Mae aelodau’n cymryd rhan mewn capasiti cynghori, ac fel arfer yn cwrdd fel Fforwm dwywaith y flwyddyn i drafod polisi ac ymchwil a gwasanaethau canser, ac i ymchwilio cyfleoedd i gydweithio. Rhaid i’r holl waith fod er budd y claf.
Nod y Fforwm yw:
-
Creu lle a strwythur ar gyfer deialog strategol a chydweithio rhwng sefydliadau ffarmacolegol a sefydliadau masnachol eraill a phartneriaid y GIG ar wasanaethau ac ymchwil canser.
-
Cael gafael ar wybodaeth gan sefydliadau ffarmacolegol a masnachol eraill ynghylch meysydd allweddol polisi cyhoeddus ac ymchwil yn y sector canser ac asesu effeithiau ar gyflawni gwasanaethau cyhoeddus.
-
Cynyddu ymwybyddiaeth o’r potensial ac effaith gwirioneddol y mae gwaith sefydliadau ffarmacolegol a sefydliadau masnachol eraill yn ei chael ar bobl Cymru.
Amcanion y rhwydwaith
Rôl y Fforwm Diwydiant yw creu strwythur ar gyfer cynnal deialog a chydweithio rhwng cwmnïau ffarmacolegol, dyfeisiau meddygol a diagnosteg â diddordeb a rhanddeiliaid sy’n gyfrifol am wella gwasanaethau canser ac ymchwil ledled Cymru (megis GIG Cymru a phartneriaid Llywodraeth Cymru) i wella gofal i gleifion.
Gall hyn helpu gyda chael gafael ar wybodaeth sydd gan sefydliadau ffarmacolegol a masnachol eraill ynghylch meysydd allweddol polisi cyhoeddus ac ymchwil yn y sector canser ac asesu effeithiau ar gyflawniad gwasanaethau cyhoeddus.
Pennir grwpiau tasg a gorffen ar sail datganiadau diddordeb aelodau’r Fforwm. Bydd aelodau’r grwpiau hyn yn gweithio rhwng cyfarfodydd Fforwm Diwydiant ffurfiol a chysylltiadau â grwpiau presennol GIG Cymru.
Ar gyfer pwy mae’r rhwydwaith?
Mae Fforwm Diwydiant Canser Cymru yn fforwm agored ar gyfer sefydliadau sy’n gweithio ym maes canser yng Nghymru. Fe wahoddir aelodau’r Fforwm i fynychu gan gynrychiolydd o Rwydwaith Canser Cymru, Canolfan Ymchwil Canser Cymru neu Gadeirydd y Fforwm, a’r nod yw cynnwys pob partner posibl gan gynnwys:
-
Fforwm Diwydiant Rhwydwaith Canser Cymru
-
GIG Cymru
-
Canolfan Ymchwil Canser Cymru
-
Llywodraeth Cymru
-
Canolfan y Gwyddorau Bywyd Cymru
-
Y diwydiant Ffarmacolegol, Biodechnoleg, dyfeisiau a diagnosteg
-
Cymdeithas Diwydiant Ffarmacolegol Prydain (ABPI)
-
Fferylliaeth Gymunedol Cymru
-
Y cyhoedd, cleifion a sefydliadau trydydd sector - neu unrhyw un sy’n cael mynediad iddo drwy wefan Rhwydwaith Canser Cymru
Ar beth mae’r rhwydwaith yn gweithio ar hyn o bryd?
Yn ddiweddar, mae’r Fforwm Diwydiant wedi creu pedwar o is-grwpiau i lywio prosiectau arloesol ar y cyd rhwng y diwydiant, y GIG a’r trydydd sector, gan roi cynnwys cleifion a’r cyhoedd wrth wraidd popeth:
-
Data Canser Cymru
-
Diagnosis Canser Cynnar
-
Ymchwil a Datblygiad yng Nghymru a’r Model Ymchwil Clinigol
-
Genomeg, Therapïau Uwch a Meddygaeth Fanwl
Ymhlith y cyfleoedd sy’n cael eu trafod ar hyn o bryd mae:
-
Archwilio dull unwaith i Gymru o ran mabwysiadu biopsi rhwydd
-
Hybiau diagnosteg cymunedol
-
Ar waith/cyn bo hir: TNE, Cytosbwng…
-
Eich mewnbwn ar ein hymchwil ‘tuag at ddim o farwolaethau o ganser y coluddyn’?
Pa sefydliadau sydd ynghlwm wrth y rhwydwaith?
Mae ystod o sefydliadau sydd ar flaen y gad o ran ymchwil canser a datblygiad yn cefnogi’r rhwydweithio hyn. Mae hyn yn cynnwys y diwydiant, y llywodraeth, cymdeithasau masnach, y GIG a grwpiau trydydd sector a chleifion.
Sut gall pobl gymryd rhan?
Cofrestrwch a mynegwch eich diddordeb mewn cydweithio ar brosiectau ar gyfer y ffrydiau gwaith canlynol:
-
Data Canser Cynnar
-
Diagnosis o ganser yn gynnar
-
Ymchwil a Datblygu yng Nghymru a’r Model Ymchwil Clinigol
-
Genomeg, Therapïau Uwch a Meddygaeth Fanwl
Mae rhestr wahoddiadau breifat ond gallwch wneud cais i ymuno drwy gysylltu ag Dominique.willson@wales.nhs.uk .