Mae Rhwydwaith Therapïau Uwch De-orllewin Lloegr a Chymru (SWAT) yn dod â rhanddeiliaid academaidd, diwydiannol a chlinigol sy’n gweithio ar therapïau seiliedig ar gelloedd a genynnau yn Ne-orllewin Cymru a Lloegr at ei gilydd.

Rhwydwaith Therapïau Uwch De-orllewin Lloegr a Chymru
Gwybodaeth am y rhwydwaith
Sefydlwyd y rhwydwaith yn 2020 fel rhan o fenter Therapïau Uwch y DU (UKAT). Ei nod yw sbarduno cydweithio, arloesi a deialog strategol, a chreu cysylltiadau â chymunedau Therapïau Uwch ehangach yn y DU ac yn rhyngwladol.
Amcanion y rhwydwaith
Nod rhwydwaith SWAT yw codi proffil cryfderau therapi uwch y rhanbarth, a helpu i drosi potensial y dechnoleg hon yn fanteision i gleifion.
Gwneir hyn drwy gynnal digwyddiadau agored a chyfleoedd rhwydweithio i drafod arloesi mewn therapïau uwch, masnacheiddio a darparu clinigol, ac mae’n darparu cyfleoedd rhwydweithio. Mae’r rhain yn ymdrin â phynciau fel treialon clinigol, buddsoddi, materion rheoleiddio a throsi academaidd. Mae rhwydwaith SWAT hefyd yn hyrwyddo nifer o fentrau Therapïau Uwch y DU sy’n ariannu cydweithio academaidd ar draws sefydliadau a phrosiectau cydweithredol rhwng partneriaid masnachol a grwpiau ymchwil academaidd/GIG.
Ar gyfer pwy mae’r rhwydwaith?
Academyddion, diwydiant, y GIG, y llywodraeth, elusennau, cyllidwyr, ymchwil a datblygu, a sectorau cymorth masnachol sy’n gweithio ym maes darganfod, datblygu a darparu therapïau uwch.
Pa sefydliadau sydd ynghlwm wrth y rhwydwaith?
Mae partneriaid SWAT yn cynnwys Prifysgolion Bryste, Caerfaddon, Caerdydd, Abertawe a Plymouth; Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG; Therapïau Uwch Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, yn ogystal â chwmnïau biotechnoleg therapïau uwch rhanbarthol.
Sut gall pobl gymryd rhan?
Mae aelodaeth yn rhad ac am ddim. Os fyddech chi’n hoffi ymuno â rhestr bostio, ewch i wefan rhwydwaith SWAT.