Arbenigwraig Cyllid Grant
Mae Sarah wedi ymuno â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru fel Arbenigwr Cyllid Grant. Ar ôl ennill ei gradd israddedig mewn Ieithoedd Ewropeaidd, dilynodd Radd Meistr mewn Cysylltiadau Rhyngwladol o Brifysgol Caerdydd gan arbenigo mewn astudiaethau rhywedd. Ers gadael y brifysgol, mae Sarah wedi gweithio ym maes rheoli prosiectau a grantiau mewn sefydliad anllywodraethol rhyngwladol sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd.
Gan weithio ar brosiectau cenedlaethol a rhyngwladol, mae Sarah wedi cydweithio â llywodraeth leol a chenedlaethol, sefydliadau rhynglywodraethol, a chorfforaethau trawswladol. A hithau wedi cyflawni cynlluniau grant gwerth miliynau o bunnoedd, mae Sarah wedi hen arfer â rheoli grantiau ar lefel uchel ac yn gyfarwydd â chymhlethdodau gweinyddu cynlluniau a ariennir gan y llywodraeth.
Gwaith Sarah yw darparu’r Gronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol (CPSIF) y mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn ei gweinyddu ar ran Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn arwain at gyflwyno gwasanaeth presgripsiynau electronig yng Nghymru. Mae Sarah hefyd yn gweithio’n agos gyda gweddill y tîm cyllido i gefnogi’r gwaith o ddatblygu cynigion ar brosiectau arloesol a chydweithredol ym maes gwyddorau bywyd.