Dywedwch back am eich swydd fel Pennaeth Ymgysylltu Iechyd a Gofal?

Mae'n bleser gennyf fod yn Hyb gwyddorau bywyd Cymru a gweithio yn eu tîm arloesedd a mabwysiadu. Rwyf wedi gweithio i GIG Cymru a'r sector cyhoeddus ers dros ugain mlynedd ac rwyf wedi gweld gwerth mewn cefnogi cydweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol wrth gydweithio â diwydiant i nodi cyfleoedd i arloesi. Credaf yn angerddol y gallwn gyflwyno arloesedd a fydd yn cael effaith wirioneddol ar gleifion ac a fydd yn cefnogi staff i wella'r ffordd y caiff gofal ei ddarparu.

Pa effaith fydd arloesedd yn cael ar sector iechyd a gofal?

Yn yr Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, rydym mewn sefyllfa unigryw i nodi ffynonellau arloesedd drwy gydweithio â phartneriaid gan gynnwys Comisiwn Bevan, 1000 o fywydau, rhaglen Cyflymu, Ecosystem Iechyd Digidol Cymru a Technoleg Iechyd Cymru.

Mae llawer o atebion arloesol ar gael eisoes. Mae angen i ni weithio'n gyflym i'w nodi, eu datblygu a'u cynyddu, fel bod ein sector iechyd a gofal yn dod yn rhagweithiol, yn gynaliadwy ac yn wydn.

Bydd arloesedd yn ein helpu i ragfynegi cyflyrau iechyd yn gyflymach, galluogi eu canfod yn gynt, a'n helpu i ddatblygu dulliau trin newydd a gwell. Yn gyffredinol, bydd yn cefnogi penderfyniadau hyddysg, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ar gyfer iechyd a lles gwell.

Pa rôl y gall Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ei chwarae yn y sector iechyd a gofal?

Credaf fod Hwb Gwyddorau bywyd Cymru mewn sefyllfa dda i roi cymorth fel partner arloesedd i'r sector iechyd a gofal cymdeithasol i sbarduno arloesedd a chyflymu newid.

O fewn y tîm arloesedd a mabwysiadu, rydym yn wirioneddol amlddisgyblaethol. Mae gennym arbenigwyr datblygu cais, sy'n cwmpasu'r tirlun ariannu fel y gallwn ariannu a gyrru cyfleoedd arloesedd yn y dyfodol gydag arian ychwanegol y tu allan i'r cyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol presennol yng Nghymru.

Mae gennym hefyd ein Rheolwyr Perthynas â'r Diwydiant allan yn y maes, gan weithio gyda diwydiant, nodi cynnyrch, gwasanaethau ac ymagweddau sy'n gweithio mewn mannau eraill neu sy'n newydd sbon, a fydd yn sbarduno newid yng Nghymru.

Byddwn yn gwahodd pob cydweithiwr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i gysylltu â ni. Os oes gennych syniad - neu gynnyrch neu wasanaethau, neu broblem gyson rydych yn ceisio ei goresgyn, rydym yma i'ch helpu i ddod o hyd i'r ateb.

 

Ddysgwch fwy am sut gallwn eich helpu fel eich partner arloesedd ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

To discuss your innovation challenges and opportunities, email Denise.puckett@lshubwales.com today.